Carinthia
Talaith yn ne Awstria yw Carinthia (Almaeneg: Kärnten, Slofeneg: Koroška). Roedd y boblogaeth yn 2011 yn 558,271. Prifddinas a dinas fwyaf y dalaith yw Klagenfurt, gyda phoblogaeth o 94,303.
Credir bod yr enw o darddiad Celtaidd, gyda dau awgrym posibl:[1]
- carant, "cyfaill", "perthynas" (cymharer "câr", "ceraint" yn Gymraeg).
- karanto, "carreg"
Mae Carinthia yn ffinio â'r Eidal a Slovenia, a gyda taleithiau Tirol, Salzburg a Styria. Ardal fynyddig yw, yn cynnwys rhan o'r Alpau dwyreiniol, ac mae copa uchaf Awstria, y Großglockner, ar y ffîn rhwng Carinthia a'r Tirol. Rhennir y dalaith yn ddwy ddinas annibynnol (Statutarstädte) ac wyth ardal (Bezirke).
Cynnwys |
[golygu] Dinasoedd annibynnol
[golygu] Ardaloedd
- Spittal an der Drau
- Hermagor
- Villach-Land
- Feldkirchen
- St. Veit an der Glan
- Klagenfurt-Land
- Völkermarkt
- Wolfsberg
[golygu] Dwyieithrwydd
Ceir lleiafrif Slofeneg ei iaith mewn rhannau o'r dalaith, ac mae mudiad yn galw am arwyddion ffyrdd dwyieithog. Yn 1972, penderfynodd llywodraeth Bruno Kreisky a llywodraethwr Carinthia, Hans Sima, osod arwyddion dwyieithog mewn ardal yn ne Carinthia, ond dinistriwyd hwy gan fudiadau adain-dde oedd yn gwrthwynebu dwyieithrwydd.
Yn 1977, penderfynodd y llywodraeth ffederal osod arwyddion dwyieithog ymhob cymuned lle'r oedd 25% neu fwy o'r boblogaeth yn siarad Slofeneg. Ni lwyddwyd i'w gosod ymhob un o'r rhain oherwydd gwrthwynebiad. Yn 2001, gorchymynwyd gosod arwyddion dwyieithog ym mhob cymuned lle'r oedd 10% o'r boblogaeth yn siarad Slofeneg, ond gwrthododd y llywodraethwr ar y pryd, Jörg Haider, wneud hynny.
[golygu] Nodiadau
- ↑ cf. H.D. Pohl: Kärnten - deutsche und slowenische Namen. Hermagoras, Klagenfurt 2000, pp 84f., 87-118.
| Taleithiau Awstria | |
|---|---|
| Awstria Isaf | Awstria Uchaf | Burgenland | Carinthia | Salzburg | Styria | Tirol | Vorarlberg | Wien | |