Tylluan Fach

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tylluan Fach
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Strigiformes
Teulu: Strigidae
Genws: Athene
Rhywogaeth: A. noctua
Enw deuenwol
Athene noctua
(Scopoli, 1769)

Mae'r Dylluan Fach (Athene noctua ) yn aelod o deulu'r Strigidae, fel y rhan fwyaf o ddylluanod. Mae'n aderyn cyffredin neu gweddol gyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop, Asia a gogledd Affrica. Nid yw'r rhywogaeth yma yn frodorol i Ynys Prydain; cawsant eu gollwng yn y 19eg ganrif ac maent wedi ymsefydlu'n llwyddiannus.

Fel y gellir casglu o'r enw, mae'r Dylluan Fach yn un o'r lleiaf o'r tylluanod, 23-27.5 cm o hyd. Mae'n bwyta pryfed, pryfed genwair ac anifeiliaid bychain eraill. Mae i'w gweld yn ystod y dydd yn amlach na'r rhan fwyaf o dylluanod eraill Ewrop.

Ceir y Dylluan Fach mewn tir agored megis ffermdir a pharcdir. Mae'n nythu mewn tyllau mewn coed neu greigiau ac yn dodwy 3-5 ŵy. Yr isrywogaeth a geir trwy'r rhan fwyaf o Ewrop yw A. n. noctua. Mae gan adar yr isrywogaeth hon blu brown gyda marciau gwyn ar y cefn a phlu gwyn gyda marciau brown ar y bol. Mae adar yr isrywogaethau a geir yng ngogledd Affrica (A. n. desertae) a'r Dwyrain Canol (A. n. lilith) yn fwy gwelw.

Pen Athena a'i thylluan ar darn arian tetradrachm, Athen, tua 393-355 CC (llun: gyda chaniatâd CNG Coins)

Mae'r dylluan fach i'w chael fel rheol mewn ardaloedd lle mae cymysgedd o goed a chaeau, ac nid yw'n aderyn mudol. Daw'r enw gwyddonol ar y genws o'r ffaith fod yr aderyn yn gysegredig i'r dduwies Athena, duwies dinas Athen.