Tsukemono

Oddi ar Wicipedia
Tsukemono
Mathpiclo Edit this on Wikidata
GwladBaner Japan Japan
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Amrywiad ar tsukemono
Disglaid o tsukemono
Siop tsukemono yn Nishiki Ichiba, Kyoto

Llysiau Japaneaidd wedi'u piclo, fel arfer mewn halen, heli[1][2] neu fran reis, yw tsukemono (漬物, "pethau wedi'u piclo").[3] Maent yn cael eu bwyta gyda reis fel okazu (saig ochr), gyda diodydd fel otsumami (byrbryd), fel cyfwyd neu garnais ac fel saig yn rhan kaiseki'r seremoni de Japaneaidd.[4]

Enwau eraill[golygu | golygu cod]

Yn Japaneg, gelwir tsukemono hefyd yn konomono (香の物), oshinko (御新香) neu okōkō (御香々), gyda phob un yn golygu "saig bersawrus". [3] Mae'r rhan ko neu () yn yr enwau hyn yn golygu "persawrus", a defnyddiwyd y term fel nyōbō kotoba neu "air menywod" am miso wrth gyfeirio at yr arogl.[5] Dros amser, defnyddiwyd y term hwn hefyd am bicls, eto ar gyfer yr arogl. Cyfeiriai oshinko ("persawr ffres") yn fwy penodol at lysiau a oedd wedi'u piclo'n ysgafn yn unig ac nad oedd llawer o newid i'w lliw eto.[dyfyniad sydd ei angen] Mae'r term bellach yn cael ei ddefnyddio'n ehangach hefyd i gyfeirio at bicls yn gyffredinol.

Gwneud tsukemono[golygu | golygu cod]

Tsukemono yn eplesu mewn bran reis

Er mwyn gwneud tsukemono, mae angen cynhwysydd, halen a rhywbeth i roi pwysau ar ben y picls.[3]

Tsukemonoki (漬物器) ("cynhwysydd piclo") yw'r enw Japaneeg ar wasg biclo. Ceir y pwysau gan gerrig trwm o'r enw tsukemono ishi (漬物石) ("carreg biclo") sy'n pwyso rhyw un neu ddau gilogram neu weithiau mwy. Defnyddir y math hwn o wasg biclo o hyd a gellir ei wneud o sawl defnydd, megis plastig, pren, gwydr neu seramig. Cyn i tsukemono ishi gael ei ddefnyddio, ceid pwysau drwy yrru lletem rhwng ddolen y cynhwysydd a'i gaead.[3]

Rhai carreg neu fetel yw pwysynnau, a chanddynt ddolen ar eu pennau ac maent wedi'u gorchuddio â haen o blastig sy'n addas i'w ddefnyddio gyda bwyd. Mae gwasg blastig fodern i'w gael hefyd. Troir sgriw ac mae'r wasg wedyn yn clampio i lawr ar y piclau i roi'r pwysau arnynt.[3]

Asazuke yw'r enw ar ddull piclo sy'n creu piclau o fewn amser byr.

Mathau o tsukemono [1]
Math Kanji Cynhwysyn piclo
shiozuke 塩漬け halen
suzuke 酢漬け finegr
amasuzuke 甘酢漬け siwgr a finegr
misozuke 味噌漬け miso
shoyuzuke 醤油漬け saws soia
kasuzuke 粕漬け gwaddod sake
kojizuke 麹漬け reis wedi'i feithrin â llwydni
nukazuke 糠漬け bran reis
karashizuke からし漬け mwstard poeth
Ssatozuke 砂糖漬け siwgr

Mathau o tsukemono[golygu | golygu cod]

Tsukemono o bob lliw a llun
Eirin umeboshi yn sychu yn yr haul i'w paratoi cartref
Matsumaezuke

Ymhlith hoff biclau pobl i'w bwyta gyda reis fel cyfwyd, mae takuan (rhuddygl daikon), umeboshi (eirin ume), maip, ciwcymbrau a bresych Tsieineaidd.

Defnyddir beni shōga (sinsir coch wedi'i biclo mewn heli umeboshi) fel garnais ar okonomiyaki, takoyaki ac yakisoba.

Mae gari (sleisiau tenau o sinsir ifanc mewn marinâd o siwgr a finegr) yn cael ei ddefnyddio rhwng prydau o swshi i lanhau'r geg.

Ceir rakkyōzuke (math o winwnsyn wedi'i biclo) yn aml gyda chyrri Japaneaidd. Mae ychydig yn sur a melys â blas ysgafn a ffres oherwydd ei fod yn cael ei gadw mewn finegr a mirin, sydd hefyd yn cael gwared ar ei chwerwder. Fe'i defnyddir i gydbwyso blasau cryfach rhannau eraill o bryd.

Cymysgedd o daikon, planhigyn wy, gwreiddyn lotws a chiwcymbr wedi'i biclo mewn saws soia yw fukujinzuke.

Math o daikon wedi'i biclo yw bettarazuke, sy'n boblogaidd yn Tokyo.

Daw'r saig matsumaezuke o Matsumae, Hokkaido, ac mae'n cael ei wneud o surume (môr-lawes sych), konbu(celp), kazunoko (gronell penwaig), moron a sinsir gyda chymysgedd o sake, saws soia a mirin .

Llysieuyn deiliog wedi'i biclo yw nozawana, sy'n nodweddiadol o dalaith Nagano.

Tariffau tsukemono[golygu | golygu cod]

Yn ôl diffiniadau cod masnach yr Unedb Ewropeaidd a'r Unol Daleithiau, mae tsukemono yn dod dan ddosbarthiad "llysiau wedi'u piclo" yn hytrach na "phiclau" gan nad ydynt wedi'u piclo'n bennaf mewn asid asetig na finegr distyll. Mae ganddynt gyfradd dreth wahanol i bicls gorllewinol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Reid, Libby (August 2008). TSUKEMONO: A Look at Japanese Pickling Techniques (PDF). Kanagawa International Foundation. t. 4. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2010-11-24. Cyrchwyd 2024-04-02.
  2. www.japan-guide.com; adalwyd 5 Ebrill 2024.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 Hisamatsu, Ikuko (2013). Tsukemono Japanese Pickling Recipes. Japan: Japan Publications Trading Co., LTD. and Boutique-sha, Inc. t. 6. ISBN 978-4-88996-181-2.
  4. justhungry.com; adalwyd 5 Ebrill 2024.
  5. [https://kyototips.com/a-guide-to-tsukemono/ kyototips.com; adalwyd 5 Ebrill 2024.