Asid asetig

Oddi ar Wicipedia
Asid asetig
Delwedd:Essigsäure Keilstrich.svg, Acetic-acid-2D-skeletal.svg, Acetic acid 200.svg
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathstraight chain fatty acids, short-chain fatty acid Edit this on Wikidata
Màs60.021129366 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₂h₄o₂ edit this on wikidata
Clefydau i'w trinClefyd y bledren, faginosis bacterol, clefyd y system clywedol, llid y glust allanol edit this on wikidata
Rhan oFinegr Edit this on Wikidata
Yn cynnwysocsigen, carbon, hydrogen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
dde
dde
dde

Asid carbocsylig ydy asid asetig, a elwir hefyd yn asid ethanoig, ac mae ganddo flas sur ac arogl sur. Ei fformiwla gemegol yw CH3COOH. Fe'i ceir mewn finegr. Pan fo'n ei gyflwr puraf, di-ddŵr, mae'n hylif di-liw sy'n amsugno dŵr o'r amgylchedd (hygrosgopi) ac yn rhewi pan fo'r tymheredd o dan 16.7 gradd Celsiws (62 °F) ac yn crisialu'n solid di-liw.

Mae asid asetig yn medru cyrydu a chreu anwedd a all frifo'r llygaid a chreu'r teimlad o losgi yn y trwyn a'r gwddw. Gall hefyd ei gwneud hi'n anodd anadlu. Asid gwan ydyw, oherwydd o dan amgylchiadau arferol (o ran tymheredd a phwysau aer mae'n gemegyn di-ddadgysylltiol ('undissociated' y Saesneg) fel hylif; yn wahanol felly i bob asid cryf gan eu bont hwy i gyd yn ddatgysylltiol.

Yr asid hwn ydy un o'r asidau organig symlaf, ar wahân i asid fformig, sef y symlaf un. Mae hefyd yn adweithydd pwysig iawn gan ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn diwydiant i gynhyrchu nwyddau sy'n cynnwys polyethylene terephthalat a ddefnyddir i wneud diodydd ysgafn, seliwlos asetat (i wneud ffilm ffotograffig), polifeinyl asetat (i wneud rhai mathau o lud pren, a ffeibrau synthetig a deunyddiau eraill. Yn y diwydiant bwyd, fe'i defnyddir o dan y cod ychwanegiadau bwyd E260 oherwydd ei allu i reoli asid.

Cynhyrchir oddeutu 6.5 miliwn tunnell ohono'n flynyddol led-led y byd.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Daw'r gair 'asetig' o'r Lladin acetum, a'i ystyr ydy finegr. Tarddiad y gair finegr yw gwin ac egr (sur). Cynhyrchwyd yn gyntaf wrth i facteria droi gwin yn ddrwg (ei 'egru') ac fe'i defnyddiwyd yn helaeth mewn alcemi yn eu hymdrech i greu aur.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Asid asetig (defnydd meddygol)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]