Ciwcymbr
Oddi ar Wicipedia
| Ciwcymbr | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
| Urdd: | Cucurbitales |
| Teulu: | Cucurbitaceae |
| Genws: | Cucumis |
| Rhywogaeth: | C. sativus |
| Enw deuenwol | |
| Cucumis sativus L. |
|
Llysieuyn sydd yn ffrwyth gwyrdd yw ciwcymbr (hefyd: ciwcymer, cucumer). Mae hi'n perthyn i deulu'r cicaionau, fel melon. Bwytir ciwcymbr ers 3000 o flynyddoedd o'r blaen a heddiw mae hi ar gael bron ledled y byd.
Defnydd Di-Coginiol[golygu]
Mae rhai yn credu fod gan ciwcymbrau cynhwysyn arbennig sy'n helpu lleihau'r chwydd o gwmpas y llygaid neu'r bagiau o dan y llygaid. Mae'r canlyniad yn wir ond mae'r ymresymiad yn anwir: mae mwy na 90% o'r ciwcymbr yn ddŵr. Mae'n yr effaith oerol o'r ddŵr ar y llygaid, efo mwy o lleithder, sy'n lleihau'r chwydd. Mae rhai cynnyrch yn cynnwys echdynion o ciwcymbr, gall mewn crynodiad uchel gwella hydradiad y croen.