Tramffordd Pwllheli a Llanbedrog

Oddi ar Wicipedia
Tramffordd Pwllheli a Llanbedrog
Mathtram line Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1894 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.88°N 4.42°W Edit this on Wikidata
Hyd3.88 milltir Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganSolomon Andrews Edit this on Wikidata

Roedd ‘’’Tramffordd Pwllheli a Llanbedrog’’’ yn dramffordd led 3 troedfedd, rhwng Pwllheli a Llanbedrog yng Ngwynedd. Defnyddiwyd ceffylau i dynnu’r cerbydau.

Adeiladwyd y tramffordd gan Solomon Andrews, ac agorwyd y lein o Bwllheli hyn at ben gorllewinol y dref ym 1894. Aeth y lein ar y traeth ar y cychwyn, ond roedd rhaid ei symud yn ôl i dir mwy diogel. Estynnwyd y lein i Lanbedrog ym 1897. Dinistriwyd y lein yn Hydref 1927 gan storm, a chaewyd y tramffordd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]