The Silence of the Lambs (ffilm)
Oddi ar Wicipedia
Poster y Ffilm |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Jonathan Demme |
| Cynhyrchydd | Kenneth Utt Edward Saxon Ron Bozman |
| Ysgrifennwr | Ted Tally |
| Serennu | Jodie Foster Anthony Hopkins Scott Glenn Ted Levine Anthony Heald Brooke Smith Frankie Faison Harry Northup |
| Cerddoriaeth | Howard Shore |
| Sinematograffeg | Tak Fujimoto |
| Golygydd | Craig McKay |
| Cwmni Cynhyrchu | Orion Pictures |
| Amser rhedeg | 118 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
Mae The Silence of the Lambs (1991) yn ffilm arswyd seicolegol a gyfarwyddwyd gan Jonathan Demme ac sy'n serennu Jodie Foster, Anthony Hopkins, Scott Glenn, Anthony Heald a Ted Levine. Mae'r ffilm yn seiliedig ar nofel o'r un enw gan Thomas Harris, ei ail nofel yn darlunio Dr. Hannibal Lecter, seiciatrydd gwych a llofruddiwr canibalaidd. Yn y ffilm, mae Clarice Starling, gwraig ifanc sy'n hyfforddi gyda'r FBI, yn troi at Lector sydd yn y carchar am ei bod eisiau ei gyngor ynglyn a dal llofrudd arall sy'n cael ei adnabod yn unig fel "Buffalo Bill". Enillodd y ffilm bump o Wobrau'r Academi gan gynnwys y Ffilm Orau, Cyfarwyddwr Gorau, Sgript Orau, Actor Gorau a'r Actores Orau.[1]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ 'Silence of the Lambs' Sweeps 5 Major Oscars LA Times. Adalwyd 13-04-2009