The Bell Jar

Oddi ar Wicipedia
The Bell Jar
Clawr yr argraffiad cyntaf o nofel Sylvia Plath ("Victoria Lucas") "The Bell Jar"
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurSylvia Plath Edit this on Wikidata
CyhoeddwrHeinemann
GwladUnol Daleithiau
IaithSaesneg
Dyddiad cyhoeddi14 Ionawr 1963 Edit this on Wikidata
Tudalennau288 Edit this on Wikidata
GenreRhannol-hunangofiannol
Prif bwncffeministiaeth, seiciatreg, Unol Daleithiau America, Dinas Efrog Newydd, hunanladdiad, anhwylder deubegwn, Iselder ysbryd, insanity Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithDinas Efrog Newydd, Boston Edit this on Wikidata

Unig nofel y llenor Americanaidd Sylvia Plath ydy The Bell Jar. Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol o dan y ffugenw "Victoria Lucas" yn 1963. Nofel rhannol-hunangofiannol ydyw, gydag enwau pobl a llefydd wedi'u newid. Yn aml, ystyrir y gwaith yn roman à clef, gyda dirywiad y prif gymeriad oherwydd salwch meddyliol yn adlewyrchu profiadau personol Plath ei hun. Cymerodd Plath ei bywyd ei hun fis ar ôl i'r nofel gael ei chyhoeddi yn y Deyrnas Unedig. Cyhoeddwyd y nofel o dan enw Plath am y tro cyntaf ym 1967 ac ni chafodd ei chyhoeddi yn yr Unol Daleithiau tan 1971, o ganlyniad i ddymuniad mam Plath a'i gŵr Ted Hughes.[1] Bellach mae'r nofel wedi ei chyhoeddi mewn bron i ddeuddeg iaith gwahanol.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. McCullough, Frances (1996). "Forward". In The Bell Jar. New York: HarperCollins Publishers. p. xii. ISBN 0-06-093018-7.
  2. (2011) "Sylvia Plath's The Bell Jar: Understanding Cultural and Historical Context in an Iconic Text", gol. Janet McCann: Critical Insights: The Bell Jar. Pasadena, CA: Salem Press. ISBN 978-1-58765-836-5