Syria (talaith Rufeinig)

Oddi ar Wicipedia
Syria
MathTalaith Rufeinig Edit this on Wikidata
PrifddinasAntiochia Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolLimes Orientalis Edit this on Wikidata
GwladRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.2°N 36.15°E Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolyr Ymerodraeth Rufeinig Edit this on Wikidata
Map

Daeth Syria yn dalaith Rufeinig wedi iddi gael ei goresgyn gan Gnaeus Pompeius Magnus yn 64 CC, wedi iddo orchfygu Mithridates. Bu ym meddiant Ymerodraeth Rhufain ac yna'r Ymerodraeth Fysantaidd am ganrifoedd, hyd nes i fyddin Islamaidd ei goresgyn yn 637.

Lleoliad talaith Syria yn yr Ymerodraeth Rufeinig

Ystyrid Syria yn dalaith o bwysigrwydd strategol, oherwydd ei ffod yn ffinio ar ymerodraeth Parthia. Cedwid tair lleng yma, ac yn 69 bu gan lengoedd Syria ran bwysig yn y digwyddiadau a wnaeth Vespasian yn ymwerawdwr.

Yn 193, rhannwyd y dalaith yn Syria Coele a Syria Phoenice. Bu'n rhan o Ymerodraeth Palmyra rhwng 260 a 273. Dan yr ymerawdwr Theodosius I yn y 4g, rhannwyd Syria Coele yn Syria, Syria Salutaris a Syria Euphratensis, a rhannwyd Syria Phoenice i greu Phoenice a Phoenicia Libanesia.

Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC
Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia