Theodosius I

Oddi ar Wicipedia
Theodosius I
GanwydTheodosius Edit this on Wikidata
11 Ionawr 347 Edit this on Wikidata
Coca, Italica Edit this on Wikidata
Bu farw17 Ionawr 395 Edit this on Wikidata
Milan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Ymerawdwr Bysantaidd, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl17 Ionawr Edit this on Wikidata
TadFlavius Theodosius Edit this on Wikidata
MamThermantia Edit this on Wikidata
PriodAelia Flaccilla, Galla Edit this on Wikidata
PlantGalla Placidia, Flavius Augustus Honorius, Arcadius, Pulcheria, Gratianus Edit this on Wikidata
PerthnasauSerena Edit this on Wikidata
LlinachLlinach Theodosius Edit this on Wikidata

Roedd Flavius Theodosius (11 Ionawr 34717 Ionawr 395), a elwir hefyd yn Theodosiws I a Theodosiws Fawr, yn Ymerawdwr Rhufain rhwng 379 a 395. Ad-unodd rannau dwyreiniol a gorllewinol yr ymerodraeth, ac ef oedd yr ymerawdwr olaf i deyrnasu dros yr ymerodraeth gyfan. Gwnaeth Gristionogaeth yn grefydd swyddogol yr ymerodraeth.

Ganed Theodosiws yn Cauca (Coca heddiw) yn Sbaen. Roedd ei dad, hefyd o'r enw Theodosiws, yn swyddog uchel yn y fyddin. Aeth Theodosiws y mab gyda'i dad i Brydain yn 368, ac yna gwnaed ef yn reolwr milwrol (dux) talaith Moesia ar Afon Donaw yn 374. Yn fuan wedyn dienyddiwyd ei dad, a dychwelodd Theodosiws i Cauca.

O 375 ymlaen, roedd tri ymerawdwr yn rheoli darnau o'r ymerodraeth: Valens, Valentinian II a Gratian. Pan laddwyd Valens ym Mrwydr Adrianople yn 378, penododd Gratian Theodosiws yn ei le fel cyd-augustus yn y dwyrain. Lladdwyd Gratian mewn gwrthryfel yn 383, a chyhoeddodd Macsen Wledig (Magnus Maximus) ei hun yn gyd-ymerawdwr yn y gorllewin, gan feddiannu holl daleithiau'r gorllewin heblaw yr Eidal. Yn 387 ymosododd Macsen ar yr Eidal, ond gorchfygodd Theodosiws ef a'i ladd.

Bu farw Valentinian II yn 392, gan adael Theodosiws yn unig ymerawdwr. Cyhoeddodd y magister militum Arbogast gyd-ymerawdwr newydd, Eugenius, yn lle Valentinian. Ceisiodd Eugenius adfer paganiaeth, ond gorchfygwyd ef gan Theodosiws ym mrwydr Frigidus.

Priododd Theodosiws ddwywaith. Gan ei wraig gyntaf, Aelia Flaccilla, cafodd ddau fab, Arcadius a Honorius a merch, Pulcheria. Wedi marwolaeth Aelia Flaccilla yn 385, priododd Galla, merch Valentinian I, a chawsant ferch, Galla Placidia, mam yr ymerawdwr Valentinian III. Dilynwyd Theodosiws gan ei ddau fab, Honorius yn y gorllewin ac Arcadius yn y dwyrain.

Rhagflaenydd:
Gratianus
Valens a Valentinian II
Ymerawdwr Rhufain
379395
Olynydd:
Honorius (yn y gorllewin)
Arcadius (yn y dwyrain)