Arabia Petraea

Oddi ar Wicipedia
Arabia Petraea
MathTalaith Rufeinig Edit this on Wikidata
PrifddinasPetra Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 106 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDiocese of the East Edit this on Wikidata
GwladRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSyria Palaestina Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau30.07°N 35.35°E, 30.1°N 35.4°E Edit this on Wikidata
Map

Roedd Arabia Petraea yn dalaith o'r Ymerodraeth Rufeinig a grewyd yn yr 2g. Roedd yn cyfateb i hen deyrnas y Nabateaid, ac mae'r rhan fwyaf o'r diriogaeth yn awr yn rhan o Wlad Iorddonen, gyda rhan fechan yn Syria a hefyd yn cynnwys Sinai (Yr Aifft) a rhan o ogledd-orllewin Sawdi Arabia a rhan o dde Israel. Prifddinas y dalaith oedd Petra. Roedd yn ffinio â thalaith Syria yn y gogledd a Judea ac Aegyptus yn y gorllewin. I'r dwyrain ac i'r de yr oedd Arabia annibynnol, oedd yn cael ei rhannu gan y Rhufeiniaid yn Arabia Deserta (i'r dwyrain) ac Arabia Felix (i'r de).

Talaith Arabia Petraea yn yr Ymerodraeth Rufeinig, tua 117 OC

Gwnaed y dalaith yn rhan o'r ymerodraeth gan y conswl Cornelius Palma yn ystod teyrnasiad Trajan (y flwyddyn 106). Roedd y lleng Legio III Cyrenaica yn gwarchod y dalaith yma, ac o'r dalaith yr oedd yr ymerawdwr Philip yr Arab yn enedigol, o ddinas Shahbā. Yn y flwyddyn 635 meddiannwyd y dalaith gan yr Arabiaid.

Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC
Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia