Souk-Ahras

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Souk-Ahras (enw hynafol: Tagaste) yn dref a wilaya (rhanbarth) yn Algeria. Fe'i lleolir yng ngogledd-ddwyrain y wlad, yn agos i'r ffin â Tiwnisia.

Ystyr yr enw Souk-Ahras yw "Marchnad y llewod" (o'r gair Arabeg سوق souk 'marchnad' a'r gair Berber ahras 'llew'), ac fe'i gelwir felly am fod yr ardal yn adnabyddus yn y gorffennol am y llewod a oedd yn byw yng nghoedwigoedd yr ardal hyd ddiwedd y 19eg ganrif.

Souk-Ahras (Tagaste) oedd tref enedigol Sant Awstin o Hippo, a aned yno yn y fwyddyn 354 i deulu o dras Berberaidd.

Mae ffordd yn cysylltu Souk-Ahras a Le Kef yn Tiwnisia a rheilffordd yn ei chysylltu ag Algiers, prifddinas y wlad, a Jendouba yn Tiwnisia.

Mae Afon Medjerda yn tarddu ger Souk-Ahras ac yn llifo i'r dwyrain ac yna dros y ffin ar ei thaith i'r Môr Canoldir rhwng Bizerte a dinas Tiwnis.


Flag of Algeria.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Algeria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.