Siwan Morris
Oddi ar Wicipedia
| Siwan Morris | |
|---|---|
| Geni | Siwan Morris 1976 Glyn-nedd, Cymru |
| Galwedigaeth | Actores, Cantores |
| Gwaith nodedig | Caerdydd, Skins, Belonging |
Actores Gymreig ydy Siwan Morris (ganwyd 1976, Glyn-nedd).
Mae hi'n ymddangos ar raglen S4C, Caerdydd, a Skins ar E4. Chwaraeodd ran Llinos yn Con Passionate, a Liv Jones yn nrama BBC Wales, Belonging. Mynychodd Brifysgol Metropolitan Manceinion. Mae hi'n siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl. Bu'n caru'r actor Christopher Eccleston am gyfnod.
Mae hefyd wedi gweithio fel cantores gyda'r grwp pop-electronig Clinigol, ac mae'n ymddangos ar 3 trac ar "Melys" - albym gyntaf y band.