Rousay

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Rousay

Un o'r ynysoedd sy'n ffurfio Ynysoedd Erch yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Rousay. Saif tua 3 km i'r gogledd o'r brif ynys, Mainland, ac roedd y boblogaeth yn 2001 yn 212. Y prif bentref yw Banks.

Ceir cysylltiad fferi a Tingwall, ar ynys Mainland. Mae'r ynys yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae gwarchodfa yn perthyn i'r RSPB arni. Ceir hefyd amrywiaeth o henebion, yn dyddio o'r cyfnod Neolithig, Oes yr Efydd, Oes yr Haearn a chyfnodau diweddarach, yn cynnwys crannog a sawl broch.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu]

  • Broch Midhowe
  • Rinyo
  • Taversoe Tuick
  • Tŷ Trumland