Richard Francis Burton
| Syr Richard Francis Burton | |
|---|---|
Syr Richard Burton, portread gan Frederic Leighton, yr Oriel Portreadau Genedlaethol |
|
| Ganwyd | 19 Mawrth 1821 Torquay, Lloegr |
| Bu farw | 20 Hydref 1890 (69 oed) Trieste, Awstria-Hwngari |
| Man claddu | Eglwys Fair Fadlen, Llundain, Lloegr |
| Cenedligrwydd | Prydeiniwr |
| Yn enwog am | fforiwr, llenor, amlieithydd, dwyreinydd |
| Priod | Isabel Burton (1861–1890) |
Daearyddwr, fforiwr, cyfieithydd, llenor, milwr, dwyreinydd, cartograffydd, ethnolegydd, ysbïwr, ieithydd, bardd, cleddyfwr, a diplomydd o Sais oedd y Capten Syr Richard Francis Burton KCMG FRGS (19 Mawrth 1821 – 20 Hydref 1890). Roedd yn enwog am ei deithiau yn Asia, Affrica a'r Amerig yn ogystal â'i wybodaeth eang o ieithoedd a diwylliannau. Yn ôl un gyfrif, yr oedd yn medru siarad 29 o ieithoedd Ewropeaidd, Asiaidd ac Affricanaidd.
Ymhlith ei gampau enwocaf yw teithio mewn cuddwisg i Mecca, cyfieithu'r Mil ac un o nosweithiau o'r Arabeg i'r Saesneg mewn argraffiad diymyrraeth, cyhoeddi'r Kama Sutra yn Saesneg, a theithio â John Hanning Speke dan arweiniad y tywysydd Sidi Mubarak Bombay i ymweld â Llynnoedd Mawr Affrica wrth chwilio am darddiad yr Afon Nîl. Beirniadodd Burton polisïau trefedigaethol yn ei waith, er anfantais i'w yrfa. Roedd yn awdur toreithiog a dysgedig ac ysgrifennodd nifer o lyfrau ac erthyglau ysgolheigaidd ar bynciau gan gynnwys ymddygiad dynol, teithio, hebogyddiaeth, cleddyfa, ymddygiad rhywiol, ac ethnograffeg. Nodwedd unigryw o'i lyfrau yw'r troednodion ac atodiadau helaeth sy'n cynnwys sylwadau nodedig a gwybodaeth gyflawn.
Roedd yn gapten ym myddin Cwmni Prydeinig India'r Dwyrain a gwasanaethodd yn India, ac am gyfnod byr yn Rhyfel Crimea. Wedi hyn cafodd ei gyflogi gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol i fforio arfordir dwyreiniol Affrica a daeth yn yr Ewropead cyntaf i weld Llyn Tanganyika. Yn hwyrach gwasanaethodd fel conswl dros Brydain yn Fernando Po, Santos, Damascus a Trieste. Roedd yn Gymrawd y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol a chafodd ei urddo'n farchog (KCMG) ym 1886.