Llyn Tanganica

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llyn Tanganyika)
Llyn Tanganica

Llyn yng nghanolbarth Affrica yw Llyn Tanganica. Ef yw'r llyn ail-fwyaf yn Affrica o ran arwynebedd, 32,900 km², ond y dyfnaf a'r un sy'n dal mwyaf o ddŵr. Mae'n 1,470 m o ddyfnder yn y man dyfnaf; dim ond Llyn Baikal yn Siberia sy'n ddyfnach ac yn dal mwy o ddŵr ymhlith llynnoedd dŵr croyw y byd.

Rhennir y llyn rhwng pedair gwlad: Bwrwndi, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Tansanïa a Sambia. Llifa Afon Lukuga o'r llyn i ymuno ag Afon Congo. Yr afonydd mwyaf sy'n llifo i mewn iddo yw Afon Ruzizi ac Afon Malagarasi.

Ceir tua 250 rhywogaeth o bysgod cichlid yn y llyn, a tua 150 o rywogaethau eraill o bysgod. Mae pysgota yn ddiwydiant pwysig yma.