Rachel Reeves

Oddi ar Wicipedia
Rachel Reeves
Ganwyd13 Chwefror 1979 Edit this on Wikidata
Lewisham Edit this on Wikidata
Man preswylLewisham Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaetheconomegydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig, Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Waith a Phensiynau, Shadow Chief Secretary to the Treasury, Shadow Chancellor of the Duchy of Lancaster, Shadow Minister for the Cabinet Office, Canghellor y Trysorlys yr Wrthblaid, Aelod Seneddol, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
PriodNicholas Joicey Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.rachelreeves.net/ Edit this on Wikidata

Gwleidydd o Loegr yw Rachel Jane Reeves (ganwyd 13 Chwefror 1979). Hi yw Canghellor Cysgodol y Trysorlys ers 9 Mai 2021. Mae hi wedi bod yn Aelod Seneddol Llafur dros Leeds West ers yr etholiad gyffredinol 2010.

Cafodd Rachel Reeves ei geni yn Lewisham, Llundain. Mae hi'n chwaer i Ellie Reeves, AS Llafur Lewisham West a Penge, sy'n briod â John Cryer, AS Llafur Leyton a Wanstead.[1][2]

Cafodd ei haddysg yn Ysgol Parc Cator, yng Ngholeg Newydd, Rhydychen ac yn Ysgol Economeg Llundain, cyn gweithio fel economegydd ym Manc Lloegr, ac wedyn yn Llysgenhadaeth Prydain yn Washington, DC. Cafodd ei hethol yn etholiad cyffredinol 2010, a gwasanaethodd yng Nghabinet Cysgodol Ed Miliband fel Prif Ysgrifennydd Cysgodol y Trysorlys rhwng 2011 a 2013 ac fel Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Waith a Phensiynau rhwng 2013 a 2015.

Priododd Reeves â Nicholas Joicey yn 2011. Gwas sifil a chyn ysgrifennydd preifat ac ysgrifennwr lleferydd Gordon Brown[3] yw Joicey. Mae gan y cwpl ddau o blant a chartrefi yn Bramley yn Leeds ac yn Llundain.[4][5] Cyhoeddodd Reeves ei beichiogrwydd cyntaf ar 20 Medi 2012, gan roi genedigaeth i ferch yn ddiweddarach.[6] [7] Esgorodd ar fab yn 2015.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Staff writer (9 Awst 2016). "Clean sweep for Corbyn supporters in Labour NEC election". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Mai 2017. Cyrchwyd 26 Ebrill 2017.
  2. Greatex, Jonny (26 Awst 2012). "MP Tom Watson finds new love after break up of marriage". Birmingham Mail (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Hydref 2014. Cyrchwyd 27 Awst 2014.
  3. "Who's new in the new Who's Who?". Grimsby Telegraph (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mehefin 2012. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2011.
  4. "Rachel Reeves". Daily Telegraph (yn Saesneg). Llundain. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Awst 2010. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2011.
  5. 5.0 5.1 Mikhailova, Anna (29 Mai 2016). "Fame & Fortune: I said no to a Goldman Sachs job". The Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Medi 2016.
  6. Bowyer, Laura (20 September 2012). "Baby joy for Leeds West Labour MP Rachel Reeves". Yorkshire Evening Post (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Medi 2012. Cyrchwyd 21 Medi 2012.
  7. Riddell, Mary (21 Chwefror 2015). "I'll end the bedroom tax then have a new baby, says Rachel Reeves". Daily Telegraph (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Medi 2015. Cyrchwyd 12 Medi 2015.