Quincy Jones
Oddi ar Wicipedia
Arweinydd corau Americanaidd, cynhyrchydd recordiau, trefnwr sgôrau cerddorol, cyfansoddwr ffilmiau a thrympedwr yw Quincy Delight Jones, Jr. (ganed 14 Mawrth 1933). Yn ystod ei bum degawd yn y diwydiant adloniant, mae ef wedi cael ei enwebu am 79 Gwobr Grammy,,[1] gan ennill 27 ohonynt gan gynnwys Gwobr Grammy Legend ym 1991. Mae'n fwyaf adnabyddus fel cynhyrchydd yr albwm "Thriller", gan yr eicon pop Michael Jackson, albwm a werthodd dros 104 miliwn o gopïau yn fyd-eang, ac fel cynhyrchydd ac arweinydd y gân elusennol “We Are the World”. Mae ef hefyd yn adnabyddus am ei gân boblogaidd "Soul Bossa Nova" (1962), a ddechreuodd ar yr albwm Big Band Bossa Nova.
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Fortune test drives a Mercedes Maybach with Quincy Jones Adalwyd 05-02-2007