Trwmped
Oddi ar Wicipedia
Offeryn chwŷth cerddorol yw trwmped neu trymped (Ffrangeg trompette, Almaeneg Trompete, Eidaleg tromba, Saesneg trumpet). Mae'n cynhychu sain pan mae'r gwefusau yn cael eu gosod ar y darn ceg ac yna'n ysgwyd wrth chwythu.
Defnyddir y trwmped mewn sawl math o gerddoriaeth, er enghraifft mewn cerddoriaeth glasurol, lle gall fod yn rhan o gerddorfa lawn neu gerddorfa siambr. Cyfansoddwyd cerddoriaeth arbennig i'r trwmped, yn enwedig gan Giuseppe Torelli (1658–1709). Cysylltir y trwmped yn arbennig a jazz, lle mae trwmpedwyr fel Miles Davis, Chet Baker a Louis Armstrong ymhlith yr enwogion. Fe'i defnyddir hefyd gan fyddinoedd er mwyn cyfleu gorchymynion. Ceir enghreiffiau at ddefnydd milwrol o tua 2,000 CC.
Trwmpedwyr enwog [golygu]
- Herb Alpert (1935)
- Louis Armstrong (1901-1971)
- Chet Baker (1929-1988)
- Miles Davis (1926-1991)
- Dizzy Gillespie (1917-1993)
- Humphrey Lyttelton (1921-2008)
- Wynton Marsalis (1961)
- Woody Shaw (1944-1989)
- James Thompson