Prydain Newydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Prydain Newydd

Ynys yn perthyn yn wleidyddol i Papua-Gini Newydd yw Prydain Newydd (Saesneg New Britain). Saif i'r dwyrain o ynys Gini Newydd, a hi yw'r fwyaf o Ynysoedd Bismarck. Mae gan yr ynys arwynebedd o 36,320 km², a phoblogaeth o tua 395,000.

Ers 1966, mae'r ynys wedi ei rhannu yn ddwy dalaith, Gorllewin Prydain Newydd gyda Kimbe fel prifddinas, a Dwyrain Prydain Newydd. Hyd at ffrwydrad llosgfynydd yn 1994, Rabaul oedd prifddinas Dwyrain Prydain Newydd, ond wedi i'r rhan fwyaf o drigolion y ddinas ffoi'r ffwydrad, symudwyd y brifddinas i Kokopo.