Ynysoedd Bismarck

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ynysoedd Bismarck

Ynysoedd yn perthyn yn wleidyddol i Papua-Gini Newydd yw Ynysoedd Bismarck. Saif yr ynysoedd hyn i'r dwyrain o ynys Gini Newydd ym Môr Bismarck. Yr ynysoedd mwyaf yw Prydain Newydd, Iwerddon Newydd, Lavongai a'r Ynysoedd Admiralty, sy'n cynnwys ynys Manus.

Credir i'r trigolion cyntaf gyrraedd yr ynysoedd tua 33,000 o flynyddoedd yn ôl, o ynys Gini Newydd. Yr Ewropead cyntaf i gyrraedd yr ynysoedd oedd y fforwiwr Willem Schouten o'r Iseldiroedd yn 1616. Rhwng 1884 a 1914 roedd yr ynysoedd yn rhan o Gini Newydd Almaenig, ac enwyd hwy ar ôl canghellor yr Almaen, Otto von Bismarck.