Presbyteriaeth
Oddi ar Wicipedia
Presbyteriaeth yw'r enw a roddir i drefniant a chredoau nifer o eglwysi Protestanaidd o fewn y traddodiad Calfinaidd. Mae eu diwinyddiaeth yn pwysleisio tra-arglwyddiaeth Duw, awdurdod y Beibl a'r angen am râs dwyfol trwy gred yn Iesu Grist. Daw'r enw o'r Groeg: πρεσβύτερος, presbuteros ("henadur").
Datblygodd Presbyteriaeth yn bennaf yn yr Alban yn y cyfnod wedi i John Knox (1505-1572) ddychwelyd i'r Alban ar ôl bod yn astudio dan Jean Calvin yn Genefa. Mae Eglwys yr Alban yn eglwys Bresbyteraidd. Cynrychiolir y traddodiad Presbyteraidd yng Nghymru gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.