Pren ar y Bryn

Oddi ar Wicipedia
Pren ar y Bryn
Adnabuwyd hefyd fel Tree on a Hill
Genre Drama
Serennu Nia Roberts, Rhodri Meilir
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg, Saesneg
Nifer cyfresi 1
Nifer penodau 6 (Rhestr Penodau)
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 60 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Fiction Factory
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Fformat llun 1080i (16:9 HDTV)
Darllediad gwreiddiol 19 Tachwedd 2023 (2023-11-19)
Cysylltiadau allanol
Proffil IMDb

Rhaglen ddrama gomedi tywyll yw Pren ar y Bryn. Crëwyd ac ysgrifennwyd y gyfres gan Ed Thomas ac fe'i cynhyrchwyd gan Fiction Factory, mewn cydweithrediad ag All3Media International a gyda buddsoddiad gan Cymru Greadigol. Mae'r prif gymeriadau yn cael eu chwarae gan Nia Roberts a Rhodri Meilir.[1]

Cychwynnodd y gwaith ffilmio yn gynnar yn 2023 ar leoliad yn Ystradgynlais ger yr Afon Tawe. Cafodd fersiwn Saesneg Tree on a Hill ei ffilmio gefn-wrth-gefn. Bydd y ddrama yn cael ei ddarlledu ar S4C, S4C Clic, BBC One ac iPlayer.

Mae 6 pennod yn y gyfres gyntaf. Fe'i darlledwyd yn y slot ddrama arferol am 9pm ar S4C.[2] Darlledwyd y fersiwn Saesneg Tree on a Hill ar BBC One Wales o 2 Ebrill 2024 ymlaen ac fe ryddhawyd y penodau i gyd ar iPlayer yr un diwrnod.[3]

Cast[golygu | golygu cod]

Penodau[golygu | golygu cod]

# Teitl Cyfarwyddwr Awdur Darllediad cyntaf Gwylwyr S4C [4]
1"Pennod 1"Ed ThomasEd Thomas19 Tachwedd 2023 (2023-11-19)I'w gyhoeddi
Mae newid ar y gorwel ym Mhenwyllt ac mae'r werin sy'n byw yno yn gwybod bod y dref roedden nhw'n ei charu unwaith ar fin diflannu o flaen eu llygaid. Neb yn fwy na Margaret a Clive, sy'n cael eu hysgwyd o'u bywydau normal i ganol dirgelwch mawr.
2"Pennod 2"Ed ThomasEd Thomas26 Tachwedd 2023 (2023-11-26)I'w gyhoeddi
Wrth i Glyn ddychwelyd yn annisgwyl i'r Mans, mae noson ramantus Margaret a Clive yn cymryd tro swreal a thywyll iawn. A fydd y cwpwl diniwed yma'n rhedeg neu'n aros i wynebu'r gwir?
3"Pennod 3"Ed ThomasEd Thomas3 Rhagfyr 2023 (2023-12-03)I'w gyhoeddi
Mae'r heddlu yn cael galwad i'r goedwig i ymchwilio lori Glyn sydd wedi ei losgi'n llwyr, ond does dim son o Glyn yn unman! Gyda phobl nawr yn dechrau gofyn cwestiynau, am ba mor hir bydd Margaret a Clive yn gallu cadw eu cyfrinach?
4"Pennod 4"Ed ThomasEd Thomas10 Rhagfyr 2023 (2023-12-10)I'w gyhoeddi
Gyda Glyn dal ar goll a Ruth Ellis ar y cês, mae'r craciau'n dechrau dangos. A ddaw'r gwir am Margaret a Clive i'r golwg? A beth am garwriaeth Herbie a Sylvia? A lle yn union mae'r cemegydd iasol Haydn Owen yn ffitio i mewn i hyn i gyd?
5"Pennod 5"Ed ThomasEd Thomas17 Rhagfyr 2023 (2023-12-17)I'w gyhoeddi
Mae'n ddigon anodd cuddio'r gwirionedd fel cwpwl, ond pan fydd tri o bobl yn gwybod y gwir mae'n anoddach fyth. Ydy gwaed yn dewach na dŵr? A all Sylvia fyth faddau i Margaret am yr hyn y mae hi wedi'i wneud? A all Clive faddau iddi am ei fradychu?
6"Pennod 6"Ed ThomasEd Thomas24 Rhagfyr 2023 (2023-12-24)I'w gyhoeddi
Mae trefn yn cael ei adfer gyda Clive yn ôl yn saff yn y gorlan - ond am ba mor hir? A wnaiff Margaret a Sylvia gytuno i helpu Clive rhoi claddedigaeth ddilys i Glyn fel yr addawodd e? Ac os y gwnânt, yna sut? A oes rhywun arall maent yn trysto i gamu i'r adwy?

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Fiction Factory - Pren ar y Bryn. Fiction Factory (11 Mawrth 2023). Adalwyd ar 15 Tachwedd 2023.
  2.  S4C A BBC Cymru Wales yn cyhoeddi drama gomedi dywyll newydd, Pren ar y Bryn/Tree on a Hill. S4C (15 Mawrth 2023). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2023.
  3. "New offbeat crime drama series Tree on a Hill starts this April on BBC One Wales and BBC iPlayer". www.bbc.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-03-26.
  4. Ffigyrau gan S4C. Gweler [1], Ffigyrau Gwylio S4C.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]