Richard Harrington

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Actor Cymreig ydy Richard Harrington (ganed 12 Mawrth 1975 ym Merthyr Tydfil).

Cafodd Harrington rannau blaenllaw yn y cyfresi teledu Bleak House a Gunpowder, Treason & Plot gan Jimmy McGovern. Mae ef hefyd wedi ymddangos o dro i dro ar Coronation Street ac yn y drydedd gyfres o Spooks.

Ymmdangosodd hefyd ar Casualty, Holby City, Hustle, Daziel and Pascoe a Silent Witness. Enillodd Wobr BAFTA Cymru am ei bortread o butain hoyw ifanc yn y ffilm Dafydd.

O ran ei berfformiadau llwyfan, teithiodd ledled y wlad gyda chynhyrchiad Fiction Factory/ Y Cwmni o ddramâu Ed Thomas House of America, Gas Station Angel a Stone City Blue.

Ei fywyd personol[golygu]

Mae gan Harrington fab, Ralff Joseff, gyda'i bartner Nerys Phillips. Ganwyd ei fab ar 18 Chwefror 2006.

Credydau[golygu]

Ffilm

Teledu

Theatr

Dolenni allanol[golygu]