Pont Vizcaya

Oddi ar Wicipedia
Pont Vizcaya
Mathpont grog Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1893 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolQ65559821 Edit this on Wikidata
LleoliadPortugalete Edit this on Wikidata
SirPortugalete Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Cyfesurynnau43.3231°N 3.0169°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd, Basque government heritage site, Bien de Interés Cultural Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddhaearn Edit this on Wikidata

Pont gludo ar draws aber Afon Nervion sy'n cysylltu trefi Portugalete a Las Arenas (rhan o Getxo) yng nghymuned ymreolaethol Euskadi yw Pont Vizcaya (Basgeg: Bizkaiko Zubia, Sbaeneg: Puente de Vizcaya).

Adeiladwyd y bont yn 1893, yr enghraifft gyntaf yn y byd o bont gludo. Mae cerddwyr a cherbydau'n teithio ar draws yr afon mewn basged crog mawr neu gondola sy'n hongian gerfydd rhaffau dur trwchus o brif drawst y ffrâm. Cynlluniwyd hi gan Alberto Palacio, oedd yn ddisgybl i Gustave Eiffel. Mae wedi ei defnyddio yn ddi-dor heblaw am gyfnod o bedair blynedd yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, pan ffrwydrwyd y rhan uchaf.

Mae'r bont yn 164 medr o hyd, ac mae'r gondola yn medru cario chwech car a rhai dwsinau o deithwyr. Gall y gondola groesi'r afon mewn munud a hanner, ac mae'n rhedeg bob wyth munud.

Yn 2006 enwyd Pont Vizcaya yn Safle Treftadaeth y Byd.