Petrisen Goesgoch
Oddi ar Wicipedia
| Petrisen Goesgoch | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Galliformes |
| Teulu: | Phasianidae |
| Genws: | Alectoris |
| Rhywogaeth: | A. rufa |
| Enw deuenwol | |
| Alectoris rufa (Linnaeus, 1758) |
|
Mae'r Betrisen Goesgoch (Alectoris rufa) yn aelod o deulu'r Phasianidae, y ffesantod. Mae'n nythu yn ne-orllewin Ewrop, Ffrainc, Sbaen a Portiwgal.
Ar lawr y mae'r Betrisen Goesgoch yn nythu, mewn cnydau neu laswellt. Gellir adnabod y betrisen hon yn weddol hawdd, yn enwedig o'r rhesi coch ar yr ystlys a'r coesau coch. Hadau yw ei bwyd yn bennaf, ond mae'r cywion yn bwyta pryfed.
Nid yw'r rhywogaeth frodorol yng Nghymru, ond mae niferoedd sylweddol yn cael eu gollwng ar gyfer saethu mewn rhai ardaloedd, a chan fod rhai ohonynt yn nythu, mae poblogaeth wedi datblygu mewn mannau, yn enwedig ar Ynys Môn.