Pamir

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Copa Ismail Samani yn y Pamir

Mynyddoedd yn nwyrain Tajikistan, gyda rhannau llai yn nwyrain Affganistan a gogledd Pacistan yw mynyddoedd y Pamir. Mae'n cysylltu a mynyddoedd y Karakoram yn y de-ddwyarain, yr Hindu Kush yn y de-orllewin a'r Tien Shan yn y gogledd-ddwyrain.

Y copa uchaf yw Copa Ismail Samani, 7,495 medr uwch lefel y môr. Yr ail-uchaf yw Copa Lenin (7,134 medr). Gorchuddir rhan helaeth o'r mynyddoedd gan eira parhaol. Ceir diwydiant glo yn y rhan orllewinol, ond cadw defaid yw'r ffynhonnell incwm bwysicaf.

Yn 1964 adeiladodd y Rwsiaid ffordd 720 km o hyd o Osj i Chorog, sy'n codi i uchder o fwy na 4,500 medr.

Lleoliad y Pamir
LocationAsia.png Eginyn erthygl sydd uchod am Asia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato