Oed Crist
Oddi ar Wicipedia
Dyfeisiodd Dionysius Exiguus y system Oed Crist ar gyfer penderfynu dyddiad y Pasg.
Oed Crist (Lladin: Anno Domini, "Ym mlwyddyn yr Arglwydd"),[1] talfyriad OC neu AD, yw'r system o rifo blynyddoedd o ddyddiad traddodiadol genedigaeth Iesu o Nasareth. Fe'i defnyddir yn y Calendr Gregoraidd. Nodir blynyddoedd cyn genedigaeth Crist fel "Cyn Crist" (CC).
Dyfeisiwyd y system yn Rhufain yn 525 gan fynach o'r enw Dionysius Exiguus, ond ni chyhaeddodd orllewin Ewrop tan yr 8fed ganrif. Daeth yn gyffredin rhwng yr 11eg ganrif a'r 14eg ganrif. Y drefn cyn hynny oedd dyddio yn ôl nifer y blynyddoedd yr oedd teyrn arbennig wedi bod ar yr orsedd. System arall a defnyddid oedd Anno Mundi, o ddyddiad traddodiadol creadigaeth y byd gan Dduw yn ôl Llyfr Genesis.
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Morwood, James. A Dictionary of Latin Words and Phrases (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1998), t. 17.