Niferoedd pryfed yn lleihau

Oddi ar Wicipedia
Niferoedd pryfed yn lleihau
Mathmarwolaethau, lleihad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae sawl astudiaeth ddiweddar (2010au-20au) yn tanlinellu'r gostyngiad sylweddol ym mhoblogaeth ac amrywiaeth pryfed. Gwelwyd gostyngiad yn y niferoedd gyda rhai rhywogaethau'n diflannu'n llwyr. Mewn rhai ardaloedd, adroddwyd am gynnydd yn y boblogaeth gyffredinol o bryfed, ac mae'n ymddangos bod rhai mathau o bryfed yn cynyddu mewn niferoedd ledled y byd.

Mae'r pryfed yr effeithir arnynt fwyaf yn cynnwys gwenyn, gloÿnnod byw, gwyfynod, chwilod, gweision neidr a mursennod. Cynigiwyd tystiolaeth anecdotaidd fod llawer mwy o bryfed ar gael yn yr 20g; mae atgofion o ffenomen ffenestr flaen y car yn enghraifft.

Y rheswm am y dirywiad yma yw colli bioamrywiaeth, gydag astudiaethau hefyd yn nodi'r canlynol: dinistrio cynefinoedd ac amaethyddiaeth ddwys; y defnydd o blaladdwyr (yn enwedig pryfleiddiaid); trefoli, a diwydiannu; rhywogaethau newydd a gyflwynwyd; a newid hinsawdd. Nid yw pob urdd o bryfed yn cael ei effeithio yn yr un modd; mae llawer o grwpiau yn destun ymchwil gyfyngedig, ac yn aml nid yw ffigurau cymharol o ddegawdau cynharach ar gael.

Mewn ymateb i'r gostyngiadau hyn, mae mwy o fesurau cadwraeth sy'n gysylltiedig â phryfed wedi'u lansio. Yn 2018 cychwynnodd llywodraeth yr Almaen “Rhaglen Weithredu ar gyfer Diogelu Pryfed”, ac yn 2019 ysgrifennodd grŵp o 27 o entomolegwyr ac ecolegwyr Prydeinig lythyr agored yn galw ar y sefydliad ymchwil yn y DU “i sefydlu ymchwiliad dwys i'r broblem, yn ddi-oed”.

Hanes[golygu | golygu cod]

Darlun 1902 o locust Mynydd Creigiog. Gwelwyd y pryfed hyn mewn heidiau yr amcangyfrifwyd eu bod yn fwy na 10 triliwn o aelodau mor ddiweddar â 1875. Yn fuan wedi hynny, gostyngodd eu poblogaeth yn gyflym, gyda’r cofnod diwethaf i’w gweld ym 1902, a datganwyd yn swyddogol fod y rhywogaeth wedi diflannu yn 2014.

Mae astudiaethau sydd wedi canfod lleihad yn niferoedd pryfed wedi bod ar gael ers degawdau - fe olrhainodd un astudiaeth y gostyngiad rhwng 1840 a 2013 - ond ailgyhoeddi astudiaeth gwarchodfeydd natur yr Almaen yn 2017 a welodd y mater yn cael sylw byd-eang yn y cyfryngau. Adroddodd y wasg am y dirywiad gyda phenawdau brawychus, gan gynnwys "Apocalyps Pryfed". Dywedodd yr ecolegydd Dave Goulson wrth The Guardian yn 2017: “Mae’n ymddangos ein bod ni’n gwneud darnau helaeth o dir yn anghroesawgar i’r rhan fwyaf o fathau o fywyd, ac ar hyn o bryd ar y trywydd iawn ar gyfer Armagedon ecolegol.” Ar gyfer llawer o astudiaethau, canfyddir yn aml fod ffactorau megis helaethrwydd bwyd, biomas, a chyfoeth rhywogaethau yn dirywio ar gyfer rhai lleoliadau, ond nid pob lleoliad, gyda rhai rhywogaethau ar drai tra bod eraill yn ffynu. Mae'r rhan fwyaf o'r pryfed a astudiwyd wedi bod yn ieir bach yr haf, gwyfynod, gwenyn, chwilod, gweision neidr, mursennod a phryfed y cerrig. Mae newidiadau yn yr amgylchedd yn effeithio ar bob rhywogaeth mewn gwahanol ffyrdd, ac ni ellir dod i'r casgliad bod gostyngiad cyson ar draws gwahanol grwpiau o bryfed. Pan fydd amodau'n newid, mae rhai rhywogaethau'n addasu'n hawdd tra bod eraill yn brwydro i oroesi.

Effeithiau[golygu | golygu cod]

Mae'r gostyngiad ym mhoblogaeth pryfed yn effeithio ar ecosystemau, a phoblogaethau anifeiliaid eraill, gan gynnwys bodau dynol. Credir fod pryfed yn "sylfaen strwythurol a chreiddiol llawer o ecosystemau'r byd." Rhybuddiodd adolygiad byd-eang yn 2019, os na chaiff ei liniaru gan gamau pendant, y byddai'r dirywiad yn cael effaith drychinebus ar ecosystemau'r blaned. Gall adar a mamaliaid mwy sy'n bwyta pryfed gael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y dirywiad. Gall poblogaethau pryfed sy’n prinhau leihau’r gwasanaethau ecosystem a ddarperir gan bryfed buddiol, megis peillio cnydau amaethyddol, a gwaredu gwastraff biolegol.

Gweithredu[golygu | golygu cod]

Ymatebion[golygu | golygu cod]

Ym Mawrth 2019 ysgrifennodd Chris D. Thomas (alma mater: Prifysgol Bangor, Gwynedd) a gwyddonwyr eraill mewn ymateb i ragfynegiadau apocalyptaidd “Insectageddon” o Sánchez-Bayo, “rydym yn awgrymu’n barchus y gallai adroddiadau am dranc pryfed gael eu gorliwio ychydig”. Roeddent yn galw am “feddwl cydgysylltiedig” wrth ymateb i brinder pryfed, wedi’i ategu gan ddata mwy cadarn nag sydd ar gael ar hyn o bryd. Fe rybuddion nhw y gallai ffocws gormodol ar leihau’r defnydd o blaladdwyr fod yn wrthgynhyrchiol gan fod plâu eisoes yn achosi colled cynnyrch o 35 y cant mewn cnydau, a all godi i 70 y cant os na ddefnyddir plaladdwyr.

Yn y DU, llofnododd 27 o ecolegwyr ac entomolegwyr lythyr agored i'r Guardian ym Mawrth 2019, yn galw ar y sefydliad ymchwil Prydeinig i ymchwilio i'r dirywiad. Ymhlith y llofnodwyr roedd Simon Leather, Stuart Reynolds, John Krebs a John Lawton, Paul Brakefield, George McGavin, Michael Hassell, Dave Goulson, Richard Harrington (golygydd) o gylchgrawn y Gymdeithas Entomolegol Frenhinol, Antenna), Kathy Willis a Jeremy Thomas.

Gwrthfesurau[golygu | golygu cod]

Mae llawer o ymdrechion y byd i gadw bioamrywiaeth ar lefel genedlaethol yn cael eu hadrodd i'r Cenhedloedd Unedig fel rhan o'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol. Disgrifia'r adroddiadau hyn fel arfer bolisïau i atal colli amrywiaeth, megis cadwraeth cynefinoedd, yn hytrach na nodi mesurau i warchod tacsa penodol. Peillwyr yw’r prif eithriad i hyn, gyda sawl gwlad yn adrodd am ymdrechion i leihau dirywiad eu pryfed peillio.

Yn dilyn Krefeld 2017 ac astudiaethau eraill, cychwynnodd gweinidogaeth amgylchedd yr Almaen, y BMU, Raglen Weithredu ar gyfer Diogelu Pryfed (Aktionsprogramm Insektenschutz). Mae eu nodau’n cynnwys hyrwyddo cynefinoedd pryfed yn y dirwedd amaethyddol, a lleihau’r defnydd o blaladdwyr, llygredd golau, a llygryddion mewn pridd a dŵr.

Stribedi blodau gwyllt
Llain o flodau fel arbrawf maes yn yr Almaen

Llain o dir wedi’i hau â hadau o rywogaethau planhigion blodeuol bioamrywiol sy’n gyfeillgar i bryfed a pheillwyr yw stribed blodau gwyllt, sydd fel arfer ar gyrion cae amaethyddol, gyda’r bwriad o gynnal bioamrywiaeth leol, gwarchod pryfed, adfer adar tir fferm a gwrthweithio canlyniadau negyddol dwysau amaethyddol.[1][2][3][4]

Gostyngiad yn y defnydd o blaladdwyr

Y tu hwnt i atal colli a darnio cynefinoedd a chyfyngu ar newid hinsawdd, mae angen lleihau'r defnydd o blaladdwyr er mwyn cadw poblogaethau o bryfed.[5] Daethpwyd o hyd i blaladdwyr ymhell o'u ffynhonnell a gallai dileu'r defnydd o blaladdwyr drwy ddeddfu, yn ogystal â gostyngiadau cyffredinol yn y defnydd o blaladdwyr, fod o fudd mawr i bryfed.[6] Gall mesurau sy'n ymwneud â bwyd organig / ffermio hefyd fod yn atebion.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Haaland, Christine; Naisbit, Russell E.; Bersier, Louis-Félix (2011). "Sown wildflower strips for insect conservation: a review" (yn en). Insect Conservation and Diversity 4 (1): 60–80. doi:10.1111/j.1752-4598.2010.00098.x. ISSN 1752-4598.
  2. Ganser, Dominik; Mayr, Barbara; Albrecht, Matthias; Knop, Eva (December 2018). "Wildflower strips enhance pollination in adjacent strawberry crops at the small scale". Ecology and Evolution 8 (23): 11775–11784. doi:10.1002/ece3.4631. ISSN 2045-7758.
  3. Schmidt, Annika; Fartmann, Thomas; Kiehl, Kathrin; Kirmer, Anita; Tischew, Sabine (1 February 2022). "Effects of perennial wildflower strips and landscape structure on birds in intensively farmed agricultural landscapes" (yn en). Basic and Applied Ecology 58: 15–25. doi:10.1016/j.baae.2021.10.005. ISSN 1439-1791.
  4. Grass, Ingo; Albrecht, Jörg; Farwig, Nina; Jauker, Frank (1 December 2021). "Plant traits and landscape simplification drive intraspecific trait diversity of Bombus terrestris in wildflower plantings" (yn en). Basic and Applied Ecology 57: 91–101. doi:10.1016/j.baae.2021.10.002. ISSN 1439-1791.
  5. Basset, Yves; Lamarre, Greg P. A. (28 June 2019). "Toward a world that values insects" (yn EN). Science. doi:10.1126/science.aaw7071.
  6. Kawahara, Akito Y.; Reeves, Lawrence E.; Barber, Jesse R.; Black, Scott H. (12 January 2021). "Opinion: Eight simple actions that individuals can take to save insects from global declines" (yn en). Proceedings of the National Academy of Sciences 118 (2). doi:10.1073/pnas.2002547117. ISSN 0027-8424.
  7. Forister, Matthew L.; Pelton, Emma M.; Black, Scott H. (2019). "Declines in insect abundance and diversity: We know enough to act now" (yn en). Conservation Science and Practice 1 (8): e80. doi:10.1111/csp2.80. ISSN 2578-4854.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • "Oral evidence: Planetary Health, HC 1803". Environmental Audit Select Committee, House of Commons (UK), 12 Chwefror 2019.
  • "Zum Insektenbestand in Deutschland: Reaktionen von Fachpublikum und Verbänden auf eine neue Studie". Wissenschaftliche Dienste, Deutscher Bundestag (Llywodraeth yr Almaen), 13 Tachwedd 2017.
  • Carrington, Damian (2021-01-11). "Insect populations suffering death by 1,000 cuts, say scientists". The Guardian. Cyrchwyd 2021-01-12.
  • Goulson, Dave (2021-07-25). "The insect apocalypse: 'Our world will grind to a halt without them'". The Guardian. Cyrchwyd 2021-07-31.
  • Milman, Oliver (2022). The Insect Crisis: The Fall of the Tiny Empires that Run the World (yn Saesneg). New York: W. W. Norton & Company, Inc. ISBN 9781324006602.
  • Wagner, David L.; Grames, Eliza M.; Forister, Matthew L.; Berenbaum, May R.; Stopak, David (2021-01-12). "Insect decline in the Anthropocene: Death by a thousand cuts". Proceedings of the National Academy of Sciences (National Academy of Sciences) 118 (2): e2023989118. doi:10.1073/pnas.2023989118. ISSN 0027-8424. PMC 7812858. PMID 33431573. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7812858.