Neithon

Oddi ar Wicipedia
Neithon
Bu farw17 Mehefin 510 Edit this on Wikidata
Hartland Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl17 Mehefin Edit this on Wikidata
TadBrychan Edit this on Wikidata

Un o feibion Brychan oedd Neithon (hefyd: Noethon, Nwython; 5g) a ymgartrefodd fel llawer o'i frodyr yng ngogledd-ddwyrain Cernyw. Mae'n gysylltiedig a'r pentrefan 'Stoke' ger pentref Hartland, Dyfnaint. Nodir 468 fel ei ddyddiad geni a 17 Mehefin fel ei wylmabsant a'i ddyddiad marw - o bosib yn 510.

Mae'r cofnod cynharaf amdano'n dod o lawysgrif o'r enw Gotha MS a ganfuwyd yn 1937, sef Bywyd Meithon.[1][2]

Nodir yn y llawysgrif hwn iddo gael ei eni yn Iwerddon a hwylio i Hartland lle ymgartrefodd mewn dyffryn ffrwythlon, ger ffynnon a elwir hyd heddiw'n St Nectan's Well. Ceir eglwys yma hefyd mewn pentrefan o'r enw Stoke; yr enw ar y pentrefan hwn yn Llyfr Dydd y Farn yw 'Nistanestoc' ac yn 1189 cofnodir yr enw fel 'Nectanestoke'.

Ceir chwedl yn y Gotha MS fod ei frodyr a'i chwiorydd yn ymweld ag ef yn flynyddol ar Nos Galan. Roedd gan Neithon ddwy fuwch a dygwyd y ddwy gan ladron, yn ôl y chwedl. Wedi hir a hwyr canfyddodd y gwartheg yn 'Neweton' (y Stoke Newydd), ond trodd y lladron arno gan ei ladd a thorri ei ben - a hynny ar 17 Mehefin. Ond cododd Neithon ei ben o'r llawr a'i gario yn ei ddwylo at y ffynnon, ger ei gartref.

Ceir sawl Neithon yn y cynod hwn gan gynnwys Neithon ap Gwyddono, un o frenhinoedd Ystrad Clud, Neithon ap Senyllt, tad Rhun ac un o hynafiaid Merfyn Mawr Tywysog Ynys Manaw a Neithon ap Cathen.

Llefydd a enwyd ar ei ôl[golygu | golygu cod]

Rhestr Wicidata:

# Eglwys neu Gymuned Delwedd Cyfesurynnau Lleoliad Wicidata
1 Capel Neithon Sant
50°24′35″N 4°38′08″W / 50.4098°N 4.6355°W / 50.4098; -4.6355 Pluw Wynnek Q17555646
2 Dyffryn Neithon
50°39′53″N 4°43′09″W / 50.6648°N 4.7192°W / 50.6648; -4.7192 Trevena Q7594902
3 Eglwys Sant Neithon, Hartland
50°59′42″N 4°30′59″W / 50.9949°N 4.51649°W / 50.9949; -4.51649 Hartland Q7594900
4 Eglwys Sant Neithon, Welcombe
50°56′17″N 4°31′24″W / 50.9381°N 4.52333°W / 50.9381; -4.52333 Welcombe Q7594901
5 Eglwys y Plwyf, Sant Neithon
50°36′20″N 3°32′19″W / 50.6056°N 3.53862°W / 50.6056; -3.53862 Ashcombe Q17527373
6 Ffynnon Neithon 50°59′40″N 4°30′53″W / 50.994425°N 4.514682°W / 50.994425; -4.514682 Hartland Q26439806
7 Gat a rhan o wal Eglwys Sant Neithion 50°56′16″N 4°31′23″W / 50.93791°N 4.523126°W / 50.93791; -4.523126 Welcombe Q26595386
8 Rhaeadr Sant Neithon, Kieve
50°39′51″N 4°42′36″W / 50.664166666667°N 4.71°W / 50.664166666667; -4.71 Trevena Q7594908
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Doble, G. H. (1970) The Saints of Cornwall, rhan 5. Truro: Dean and Chapter; tt.59-79
  2. Doble, G. H. (tr.) (1941) The Life of Saint Nectan, ail rifyn. (Ailargraffiad: Bideford, 1964)