Neil Armstrong
Oddi ar Wicipedia
Neil Alden Armstrong (ganed 5 Awst, 1930) oedd y person cyntaf i roi ei droed ar y Lleuad.
Ganed ef yn Wapakoneta, Ohio yn yr Unol Daleithiau. Astudiodd ym Mhrifysgol Purdue cyn ymuno a Llynges yr Unol Daleithiau. Bu'n ymladd yn Rhyfel Corea. Wedi'r rhyfel bu'n beilot prawf.
Bu yn y gofod am y tro cyntaf ar Gemini 8 yn 1966, pan fu'n gyfrifol gyda David Scott am ddocio dwy long ofod wrth ei gilydd am y tro cyntaf. Ef oedd y pennaeth ar Apollo 11 a laniodd ar y lleuad ar 20 Gorffennaf, 1969. Treuliodd Armstrong a Buzz Aldrin ddwy awr a hanner ar wyneb y lleuad tra roedd Michael Collins mewn orbit uwchben.

