Neidr ddefaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Neidr Ddefaid
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Reptilia
Urdd: Squamata
Is-urdd: Lacertilia
Teulu: Anguidae
Genws: Anguis
Rhywogaeth: A. fragilis
Enw deuenwol
Anguis fragilis
Linnaeus, 1758

Mae'r neidr ddefaid neu neidr ddall (Lladin: Anguis fragilis; Saesneg: slow-worm) yn ymlusgiad heb goesau. Enwau eraill arni yw dallneidr, slorwm, neidr fraith (yng ngogledd Cymru, yn arbennig ym Môn), maplath (yng Ngwent) a modrybwilan (yn ne ddwyrain Cymru).

Madfallod yw nadroedd defaid. Mae croen y mathau o neidr ddefaid yn llyfn â chennau nad yw'n gorgyffwrdd â'i gilydd. Fel pob madfall arall, mae gan nadroedd defaid y gallu i autotomeiddio, sy'n golygu eu bod yn medru diosg eu cynffonau er mwyn dianc rhag ysglyfaethwyr. Mae'r gynffon yn aildyfu ar ôl hynny, ond yn anaml i'w hyd blaenorol.

Sauropsida-stub.PNG Eginyn erthygl sydd uchod am ymlusgiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.