Gwlithen

Oddi ar Wicipedia
Gwlithen fawr ger Manali, India

Gwlithen, malwen wlith neu malwen ddu, yw'r enw a roir i unrhyw gastropod bychan croengaled llysnafeddog o'r genws Limax a genera perthynol sy'n byw ar dir yn bennaf.

Mae amryw deuluoedd tacsonomig o wlithod tir yn perthyn i nifer o wahanol linachau sydd hefyd yn cynnwys malwod. O ganlyniad, nid yw'r gwahanol deuluoedd o wlithod yn perthyn yn agos, er gwaethaf y tebygrwydd o ran eu ffurf. Mae'r cyflwr di-gragen wedi ymddangos lawer gwaith yn annibynnol yn ystod y gorffennol ac felly mae'r categori "gwlithen" yn un lluosdylwythol.

Mae anatomi allanol gwlithen yn cynnwys tentaclau, mantell, cynffon, cêl, troed a weithiau cragen weddilliol.

Mae gwlithod yn ddeurywiol, gydag organau atgenhedlu gwrywaidd a benywaidd.[1] Wedi esgor, maent yn dodwy tua deg ar hugain o wyau mewn twll yn y ddaear neu dan gysgod gwrthrych fel boncyff.

Mae gan wlithod ran bwysig yn yr ecosystem am eu bod yn bwyta deunydd planhigion sy'n pydru a ffwng.[2] Mae'r rhan fwyaf o rywogaethau yn gyffredinolwyr, yn bwyta ystod eang o ddeunyddiau organig, gan gynnwys dail planhigion byw, madarch, a hyd yn oed celain.[2][3] Mae rhai gwlithod yn ysglyfaethwyr ac yn bwyta gwlithod eraill a malwod, neu fwydod.[2][4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Perverted cannibalistic hermaphrodites haunt the Pacific Northwest! " The Oyster's Garter". Theoystersgarter.com. 24 March 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 April 2008. Cyrchwyd 15 August 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. 2.0 2.1 2.2 "What Do Slugs Eat?". animals.mom.me. Cyrchwyd 15 August 2016.
  3. Keller, H. W.; Snell, K. L. (2002). "Feeding activities of slugs on Myxomycetes and macrofungi". Mycologia 94 (5): 757–760. doi:10.2307/3761690. JSTOR 3761690. PMID 21156549. http://www.mycologia.org/content/94/5/757.full. Adalwyd 15 August 2016.
  4. "Worm-eating slug found in garden (video)". BBC News. 10 July 2008. Cyrchwyd 15 August 2016.