Nathaniel Cynhafal Jones
Oddi ar Wicipedia
Bardd a golygydd Cymreig o Sir Ddinbych oedd Nathaniel Cynhafal Jones (19 Ebrill 1832 – 14 Rhagfyr 1905).
Ganed Nathaniel ym mhlwyf Llangynhafal, Sir Ddinbych, yn 1832. Aeth i weithio fel teiliwr yn Yr Wyddgrug lle daeth yn gyfaill i'r nofelydd Daniel Owen, a weithiai yn yr un gweithdy am gyfnod.
Cyhoeddodd bum cyfrol o gerddi, ar bynciau crefyddol yn bennaf, sy'n adlewyrchu ei safbwynt fel un o'r Methodistiaid Calfinaidd. Roedd yn adnabyddus hefyd fel pregethwr Methodus, o 1859 ymlaen.
Ond ei brif gyfaniad i lenyddiaeth Gymraeg yw ei olygiad safonol o weithiau William Williams, Pantycelyn, (mewn dwy gyfrol ; cyhoeddwyd 1887, 1897).
Cynnwys |
Llyfryddiaeth [golygu]
Barddoniaeth [golygu]
- Fy Awenydd (1859)
- Elias y Thesbiad (1869)
- Y Messiah (1895)
- Y Bibl (1895)
- Charles o'r Bala (1898)
Gwaith golygyddol [golygu]
- Gweithiau William Williams, Pantycelyn, 2 gyfrol (1887, 1897)