Nathan Rogers

Oddi ar Wicipedia
Nathan Rogers
Ganwyd30 Mai 1638 Edit this on Wikidata
Llanfaches Edit this on Wikidata
Bu farw1708 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
LlinachTeulu Vaughan, Pant Glas Edit this on Wikidata

Awdur gwaith topograffig Cymreig oedd Nathan Rogers (30 Mai 1639 - c. 1708). Roedd yn frodor o blwyf Llanfaches, Sir Fynwy.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ganed Nathan Rogers yn 1639, yn fab i sgweier lleol a oedd yn gapten ym myddin Oliver Cromwell yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.[1]

Tua diwedd ei oes, cyhoeddodd y llyfr Memoirs of Monmouth-Shire yn 1708. Yn ogystal â disgrifiad o hanes a thirwedd Sir Fynwy, ceir atodiad sy'n annog uchelwyr ac arweinwyr y sir i geisio adfer eu hawliau yng Nghoed Gwent, hawliau a gipwyd drwy ddichell gan Ardalydd Caerwrangon a Dug Beaufort.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Memoirs of Monmouth-Shire (Llundain, 1708). Adargraffwyd yn 1984.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).