Naryan-Mar

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Golygfeydd yn Naryan-Mar.

Porthladd a thref yng ngogledd-orllewin Rwsia yw Naryan-Mar (Rwseg: Нарья́н-Мар; Nenetseg: Няръянa мар", Nyar'yana marq, sef "y Dref Goch"), sy'n ganolfan weinyddol Ocrwg Ymreolaethol Nenets. Lleolir y dref ar lan dde Afon Pechora, 110 cilometer (68 milltir) o aber yr afon honno, ar lan Môr Barents yn yr Arctig Rwsiaidd. Gorwedd Naryan-Mar i'r gogledd o Cylch yr Arctig. Poblogaeth: 21,658 (Cyfrifiad 2010), sef bron i hanner poblogaeth yr ocrwg.

Gefeilldrefi[golygu]

Dolen allanol[golygu]