Afon Petsiora
Oddi ar Wicipedia
Afon yn Rwsia yw Afon Petsiora (Rwseg: Печо́ра; Komi: Печӧра; Nenets: Санэроˮ яха). Saif yng ngogledd-ddwyrain y rhan Ewropeaidd o Rwsia, ac mae ei hyd tua 1800 km.
Tardda'r afon ym mynyddoedd Wral yng ngweriniaeth Komi, 1100 medr uwch lefel y môr. Mae'n llifo tua'r gogledd heibio Jaksia, Troitsko-Petsiorsk, Dwyrain-Sitsioegor, dinas Petsiora, Brykalansk a Gorllewin Tsilma. Mae'n llifo i mewn i ardal ymreolaethol Nenetsië, heibio Narjan-Mar ac yn cyrraedd y môr ym Mae Petsiora, rhwng Môr Barents a Môr Kara.
Mae'r ardal o amgylch yr aber yn fan nythu bwysig i lawer o rywogaethau o adar. Dim ond un bont sydd ar draws yr afon.