Ocrwg Ymreolaethol Nenets

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Ocrwg Ymreolaethol Nenets.
Lleoliad Ocrwg Ymreolaethol Nenets yn Rwsia.

Un o ddeiliaid ffederal Rwsia yw Ocrwg Ymreolaethol Nenets (Rwseg: Не́нецкий автоно́мный о́круг; Nenetseg: Ненёцие автономной ӈокрук, Nenyotse avtonomnoy ŋokruk), neu Nenetsia, a leolir yng ngogledd-orllewin Rwsia. Ei ganolfan weinyddol yw Naryan-Mar. Poblogaeth: 42,090 (Cyfrifiad 2010).

Mae Ocrwg Ymreolaethol Nenets yn rhan o ranbarth gweinyddol y Dosbarth Ffederal Gogledd-orllewinol. Mae'n diriogaeth ymreolaethol o fewn Oblast Arkhangelsk gyda chanran sylweddol o bobl brodorol yn byw yno, sef y Nenetsiaid a'r Comiaid. Mae'n gorwedd ar lan Môr Barents yn yr Arctig.

Sefydlwyd yr ocrwg ar 15 Gorffennaf 1929.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.