Morwennol Bigddu

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Morwennol Bigddu
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Sternidae
Genws: Thalasseus
Rhywogaeth: T. sandvicensis
Enw deuenwol
Thalasseus sandvicensis
Latham, 1787
Cyfystyron

Sterna sandvicensis

Mae'r Forwennol Bigddu (Thalasseus sandvicensis) yn aelod o deulu'r Sternidae, y morwenoliaid.

Mae tri is-rywogaeth:

  • T. s. sandvicensis sy'n nythu ar arfordir Ewrop ac yn gaeafu ar arfordir gorllewin Affrica ac Arabia.
  • T. s. acuflavida, sydd ychydig yn llai ac yn nythu ar arfordir dwyreiniol Gogledd America ac yn gaeafu yn y Caribî.
  • T. s. eurygnatha sydd a'r pig yn felyn, yn nythu ar arfordir dwyreiniol De America o'r Ariannin i'r Caribî. Mae rhai awduron yn ystyried y math yma yn rywogaeth ar wahan, T. eurygnatha.

Mae'r Forwennol Bigddu yn nythu gyda'i gilydd, weithiau gannoedd neu filoedd o adar, ar yr arfordir neu ar ynysoedd. Nid yw'n ymosodol iawn, felly mae'n aml yn nythu gydag adar eraill, fel y Wylan Benddu sy'n fwy tebyg o ymosod ar unrhyw anifail neu aderyn sy'n dod yn rhy agos i'r nythod.

Pysgod bychain yw eu bwyd, sy'n cael eu dal trwy hedfan uwchben y dŵr ac yna plymio i mewn iddo pan welir pysgodyn yn agos i'r wyneb. Mae'n fwy na'r rhan fwyaf o'r morwenoliaid eraill, 37-43cm o hyd a 85-97cm ar draws yr adenydd. Gellir ei adnabod yn hawdd o'r pig, sy'n ddu gyda blaen melyn (heblaw S. s. eurygnatha). Mae'r coesau'n ddu, y cefn a rhan uchaf yr adenydd yn llwyd golau a'r bol yn wyn. Mae'r gynffon yn gymharol fyr, llawer byrrach na chynffon Morwennol y Gogledd er enghraifft. Yn yr haf mae cap du ar y pen, ond yn y gaeaf mae'r talcen yn troi'n wyn.

Mae'r Forwennol Bigddu yn aderyn gweddol gyffredin o gwmpas arfordir Cymru yn yr haf. Dim ond mewn un lle mae'n nythu yng Nghymru, sef Cemlyn ar Ynys Môn, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae tua 1,500 o barau wedi nythu yno.