Moelfre
Oddi ar Wicipedia
Mae Moelfre yn bentref ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn, tua hanner y ffordd rhwng Benllech ac Amlwch. Pysgota oedd prif weithgaredd y trigolion yn y gorffennol, ond yn awr mae'n bentref gwyliau pur boblogaidd. Mae yno harbwr bychan, a heb fod ymhell o'r pentref mae ynys fechan, Ynys Moelfre. Gellir dilyn Llwybr Arfordirol Ynys Môn trwy'r pentref.
Mae Moelfre yn adnabyddus fel y man lle drylliwyd y llong Royal Charter ym mis Hydref 1859 tra'n hwylio o Awstralia i Lerpwl. Drylliwyd hi ar y creigiau rhwng y pentref a Thraeth Lligwy, ac mae cofeb yn nodi'r fan. Bu farw tua 450 o bobl; y nifer mwyaf i farw mewn unrhyw longddrylliad ar draethau Cymru. Bron yn union gan mlynedd yn ddiweddarach drylliwyd llong arall, yr Hindlea bron yn union yn yr un fan. Y tro hwn achubwyd y criw i gyd gan fad achub Moelfre.
Daeth bad achub Moelfre yn enwog dan Richard (Dic) Evans (1905 – 2001), a enillodd nifer o fedalau am ei wrhydri yn achub bywydau. Mae cerflun efydd o Dic Evans gan Sam Holland i'w weld ger cwt y bad achub yn y pentref.
Gerllaw Moelfre mae nifer o hynafiaethau diddorol, yn cynnwys siambr gladdu Lligwy a Din Lligwy, oedd yn drigfan pennaeth neu uchelwr brodorol yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Gerllaw mae Capel Lligwy o'r 12fed ganrif.
Yr Arwydd yw papur bro Benllech a gweddill cylch Mynydd Bodafon.
Aberffraw · Amlwch · Benllech · Bethel · Biwmares · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Caergybi · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachreth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfairpwllgwyngyll · Llanfair-yn-neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangefni · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llanynghenedl · Malltraeth · Marianglas · Moelfre · Niwbwrch · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthaethwy · Porth Llechog · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Trearddur · Trefor · Tregele