Moelfre Isaf
Oddi ar Wicipedia
| Moelfre Isaf (Mynydd Hiraethog) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | Moelfre Isaf o'r gorllewin |
| Uchder (m) | 317 |
| Uchder (tr) | 1040 |
| Amlygrwydd (m) | 121 |
| Lleoliad | rhwng Llandudno a Wrecsam |
| Map topograffig | Landranger 116; Explorer 264N |
| Cyfesurynnau OS | SH951733 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | HuMP |
Bryn yn Sir Conwy yw Moelfre Isaf (316 metr), sy'n gorwedd tua 3 milltir i'r de o Abergele. Er nad yw'n fryn uchel mae'n nodwedd amlwg yn nhirwedd y rhan yma o'r sir. Y fam-gopa yw Moelfre Uchaf.
Llifa Afon Elwy heibio wrth droed y bryn i'r de. Ar odrau gogleddol y bryn mae'r B5381 yn dilyn cwrs yr hen ffordd Rufeinig a gysylltai Varis a Deva i'r dwyrain â chaer Canovium (Caerhun) i'r gorllewin. Rhwng y B5381 ac ysgwydd Moelfre Isaf mae rhes o beilonau trydan yn trosglwyddo trydan o Atomfa'r Wylfa i ddinasoedd gogledd-orllewin Lloegr.
I'r de-orllewin ceir Mynydd Bodrochwyn (280 m) a Mynydd Bodran (286 m) ger Llanfair Talhaearn.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
- Clwb Mynydda Cymru