Miguel de Cervantes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Miguel de Cervantes

Nofelydd, bardd a dramodydd o Sbaenwr oedd Miguel de Cervantes (29 Medi, 1547 - 23 Ebrill, 1616). Mae'n adnabyddus yn bennaf am ei nofel bicaresg enwog Don Quixote ond yr oedd hefyd yn ddramodydd o fri yn ei ddydd ac yn awdur straeon byrion.

Ganwyd Miguel De Cervantes Saavedra yn Alcala de Henares, tref rhyw ugain milltir o Fadrid.[1]

Enillodd glod fel milwr ond bu'n gaethwas i'r Mwriaid am bum mlynedd. Priododd â Catalina Salazar yn 1584. Yn 1594 daeth yn gasglwr trethi yn nhalaith Granada ond erbyn 1597 yr oedd mewn dyled i'r Llywodraeth.[1]

Cyhoeddwyd Don Quixote yn 1605. Bu'n llwyddiant mawr a gwerthwyd 5 argraffiad cyn diwedd y flwyddyn.[1]

Llyfryddiaeth[golygu]

Barddoniaeth[golygu]

  • Dos canciones a la armada invencible
  • Viaje del Parnaso (1614)

Dramau[golygu]

  • El trato de Argel
  • El cerco de Numancia
  • El Gallardo Español
  • Los Baños de Argel
  • La Gran Sultana
  • Doña Catalina de Oviedo
  • La Casa de los Celos
  • El Laberinto del Amor
  • La Entretenida
  • El Rufián Dichoso
  • Pedro de Urdemalas

Nofelau[golygu]

Storïau[golygu]

  • Novelas Exemplares

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 Don Cwicsot J.T.Jones. Llyfrau'r Dryw 1954


Baner SpainEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sbaenwr neu Sbaenes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.