Heliodorus

Oddi ar Wicipedia
Heliodorus
Ganwydc. 3 g Edit this on Wikidata
Homs Edit this on Wikidata
Bu farwc. 4 g Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
BlodeuoddMileniwm 1., 3 g, 3 g, 4 g, 4 g, c. 400 Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAethiopica Edit this on Wikidata
Darn o arian a fathiwyd yn 253 gan Uranius Antoninus yn Emesa; ar y dde ceir llun sydd efallai'n dangos Teml Haul y ddinas

Nofelydd Groeg, yn enedigol o ddinas Emesa yn Syria, awdur y rhamant Roeg yr Aethiopica, neu Chwedl Ethiopiaidd Theagenes a Chariclea, (fl. 3g) oedd Heliodorus.

Bywyd a gwaith[golygu | golygu cod]

Ychydig iawn o ffeithiau cadarn sydd ar gael amdano. Ar ddiwedd ei nofel dywed ei fod yn Ffeniciad o Emesa, mab Theodosius, disgynydd gwaed Helios. Felly roedd yn aelod o deulu o offeiriaid etifeddol a wasanaethai Duw'r Haul, yn ninas Emesa ar lan ddwyreiniol Afon Orontes yn nhalaith Syria Phoenice. Roedd y ddinas yn enwog am ei theml i'r Duw Haul Syro-Phoeniciaidd ac am yr offeiriaid a wasanaethai yno; saif Homs ar ei safle heddiw. Mae'r bywgraffyddwr Rhufeinig Flavius Philostratus (fl. dechrau'r 3g) yn cyeirio at soffydd o'r enw "Heliodorus yr Arab" a oedd yn treulio dyddiau olaf ei oes yn Rhufain, ond yn ôl y nofelydd roedd o dras Phoeniciaidd ac mae'r dyddiad yn fymryn rhy gynnar hefyd.

Yn ôl traddodiad arall, sy'n ddiweddarach, ysgrifennodd yr Aethiopica yn ddyn ifanc, cyn iddo droi'n Gristion. Dywedir iddo fod yn Esgob Tricca, yn Thessaly, yng ngogledd Gwlad Groeg, ar ddiwedd y 4g. Yn ôl yr hanesydd eglwysig Socrates (fl. 5g), Heliodorus a sefydlodd y rheol eglwysig fod rhaid i offeiriad newydd roi heibio ei wraig os oedd yn briod. Mae hanesydd eglwysig arall llawer diweddarach, Nicephorus (13g), yn adrodd bod yr awdur wedi cael ei ddwyn gerbron synod ranbarthol dan y cyhuddiad fod ei lyfr yn llygru moes pobl ifanc. Gwadodd hynny ond rhoddwyd iddo'r dewis rhwng derbyn gwaharddiad ei lyfr neu gael ei ddiymarddel o'i esgobaeth. Yn ôl Nicephorus rhoddodd Heliodorus ei lyfr o flaen ei esgobaeth ond yn anffodus ni ellir profi hynny ac mae'n debyg fod yr hanes yn apocryffaidd; yn wir mae'n bur debygol bod elfennau o hanes Heliodorus, oedd yn enwog am ganrifoedd, wedi cael eu tadogi ar ffigwr arall o'r enw yng nghyfnod y Bysantiaid, efallai fel rhan o'r propaganda Cristnogol yn erbyn y paganiaid. Nid yw'n hysbys fod Heliodorus wedi troi'n Gristion ond ceir elfennau yn ei nofel sy'n adlewyrchu meddylfryd Plotinus ac athronyddion Groeg Newydd-Blatoniaid eraill.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Walter Lamb (cyf.), Heliodorus: Ethiopian Story (Llundain, 1961)