Don Quixote

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Don Quixote (1605), y dudalen deitl wreiddiol.

Don Quixote yw'r enw arferol ar nofel Miguel de Cervantes sydd a'r teitl llawn 'El ingenioso hidalgo don Quixote de la Mancha, neu yn orgraff Sbaeneg modern, Don Quijote. Y nofel yma, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1605, yw nofel enwocaf Sbaen; mae hefyd yn un o nofelau enwocaf y byd. Cyhoeddwyd yr ail gyfrol ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Mae'n nofel ddoniol ym yr arddull bicaresg, ond mae neges fwy difrifol iddi hefyd.

Prif amcan Cervantes wrth ysgrifennu Don Quixote oedd dinistrio'r llyfrau marchogwriaeth a rhamant a oedd mor boblogaidd yn Sbaen. Oherwydd y brwydro yn erbyn y Mwriaid bu'r llyfrau rhamant oroesi yn hwy nac unrhyw fan arall. Nid ef oedd yr unig un. Yn 1533 pasiodd Siarl V ddeddf yn gwahardd dwyn Rhamantau Marchogwriaeth i mewn i India'r Gorllewin. yn 1555 ceisiwyd deddfu yn ei herbyn a'u llosgi, ond heb lwyddo.[1]


Mae'r arwr, Alonso Quixano, yn foneddwr gwledig sy'n byw yn La Mancha. Trwy ddarllen gormod o lyfrau ar sifalri, mae'n dod i gredu ei fod yn byw mewn byd o farchogion crwydr o'r cyfnod yma, ac mae'n cychwyn allan gyda'i ysgweier Sancho Panza, yn marchogaeth ar ei hen geffyl "Rocinante". Mae'n rhaid i farchog gael cariad, a dewis Don Quixote yw Dulcinea del Toboso, mewn gwirionedd Aldonza Lorenzo, merch fferm gyfagos, sy'n gwybod dim am hyn.

Dilynir Don Quixote trwy gyfres o anturiaethau; un o'r enwocaf yw ei ymosodiad ar felinau gwynt gan dybio mai cewri ydynt. Ar ddiwedd y nofel, mae'n sylweddoli ei fod wedi bod yn ei dwyllo ei hun, ac yn marw.

Don Quixote, Rocinante a Sancho Panza wedi ymosodiad aflwyddiannus ar felin wynt. Llun gan Gustave Doré.

Yn 2005, dathlwyd pedwar can mlwyddiant y llyfr mewn nifer o ffyrdd; er enghraifft yn Venezuela, rhannodd yr arlywydd Hugo Chávez filiwn o gopiai am ddim fel rhan o ymgyrch yn erbyn anllythrenedd.

Ffynonellau[golygu]

  1. Anturiaethau Don Cwicsot J.T.Jones Llyfrau'r Dryw.