Mhairi Black

Oddi ar Wicipedia
Mhairi Black AS
Mhairi Black


Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – Mai 2020
Rhagflaenydd Douglas Alexander

Geni (1994-09-12) 12 Medi 1994 (29 oed)
Paisley, Swydd Renfrew, Yr Alban
Cenedligrwydd Baner Yr Alban Yr Alban Albanwr
Etholaeth Paisley a De Swydd Renfrew
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Alma mater Prifysgol Glasgow
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/

Gwleidydd o'r Alban yw Mhairi Black (ganwyd 12 Medi 1994) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Paisley a De Swydd Renfrew; mae'r etholaeth yn Swydd Renfrew, yr Alban. Mae Mhairi Black yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Fe'i ganed yn Paisley, Swydd Renfrew yn 1994 a mynychodd Ysgol Uwchradd Lourdes, ac yna Prifysgol Glasgow ble derbyniodd Radd Dosbarth dosbarth cyntaf mewn Gwleidyddiaeth a Pholisi Cyhoeddus ym mehefin 2015.[1][2] Pan enillodd ei sedd fel AS roedd yn dal i astudio ar gyfer y Radd hon.

Disgrifiai ei hun fel 'sosialydd traddodiadol' ac mae wedi dyfynnu Tony Benn ambell dro, un o'i harwyr.[3] Ymhlith ei harwyr eraill mae Keir Hardie a Margo MacDonald.[4] Mae'n ffan mawr o Dîm Pêl-droed Partick Thistle.[5]

Mae'n un o'r Aelodau Seneddol ieuengaf erioed.[6]

Etholiad 2015[golygu | golygu cod]

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[7][8] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Mhairi Black 23,548 o bleidleisiau, sef 50.9% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +32.9 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 5,684 pleidlais.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Leask, David (1 Mehefin 2015). "Analysis: SNP bucks trend for privately educated MPs". The Herald. Cyrchwyd 1 Mehefin 2015.
  2. "Mhairi Black awarded first class honours degree". BBC News. 26 Mehefin 2015. Cyrchwyd 26 Mehefin 2015.
  3. Gander, Kashmira (15 Gorffennaf 2015). "Mhairi Black speech in full". The Independent. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2015.
  4. Spiers, Graham (1 Mai 2015). "Graham Spiers Article for the Times". Mhairi Black SNP: Paisley & Renfrewshire South. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-03. Cyrchwyd 18 Mai 2015.
  5. "Mhairi Black MP". Scottish National Party. Cyrchwyd 1 Mehefin 2015.
  6. "Meet the youngest MP elected since 1667". Newsbeat. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-21. Cyrchwyd 8 Mai 2015.
  7. Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
  8. Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban