Mathonwy Hughes

Oddi ar Wicipedia
Mathonwy Hughes
Ganwyd24 Chwefror 1901 Edit this on Wikidata
Llanllyfni Edit this on Wikidata
Bu farwMai 1999 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, golygydd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaY Faner Edit this on Wikidata
PerthnasauR. Silyn Roberts Edit this on Wikidata

Bardd a llenor Cymraeg oedd Mathonwy Hughes (24 Chwefror 1901 - Mai 1999). Ganed ef ym mhlwyf Llanllyfni yng Ngwynedd, yn fab i chwarelwr, Joseph Hughes, a'i wraig Ellen. Roedd Robert Roberts (Silyn) yn ewythr iddo.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Yn saith oed aeth i Ysgol Gynradd Nebo ond bu'n wael, yn rhy wael i fynychu Ysgol y Sir ym Mhen-y-groes; ond cafodd fynd i'r ysgol yng Nghlynnog - siwrnai o 10 milltir ar droed.[1]

Bu'n olygydd cynorthwyol Baner ac Amserau Cymru o 1949 hyd 1977. Fel ei ewythr, bu'n weithgar iawn gyda Mudiad Addysg y Gweithwyr. Enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1956 am ei awdl ysgafn Gwraig, a chyhoeddodd nifer o gasgliadau o farddoniaeth ac ysgrifau.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Amell Ganu (1957)
  • Corlannau (1971)
  • Myfyrion (1973)
  • Creifion (1979)
  • Dyfalu (1979)
  • Awen Gwilym R. (1980)
  • Gwin y Gweunydd (1981)
  • Atgofion Mab y Mynydd (1982, hunangofiant)
  • Chwedlau'r Cynfyd (1983)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]