Mariza

Oddi ar Wicipedia
Mariza
FfugenwMariza Edit this on Wikidata
Ganwyd16 Rhagfyr 1973 Edit this on Wikidata
Maputo Edit this on Wikidata
Label recordioWarner Music Group Edit this on Wikidata
DinasyddiaethPortiwgal Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, cerddor, cyfansoddwr caneuon Edit this on Wikidata
SwyddLlysgennad Ewyllus Da UNICEF Edit this on Wikidata
Arddullfado Edit this on Wikidata
Gwobr/auCommander of the Order of Prince Henry, Dresdner Musikfestspiel-Preis, Q113206538, Q10354858, Golden Globes Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.mariza.com Edit this on Wikidata

Cantores o Bortiwgead yw Mariza (ganwyd Marisa dos Reis Nunes; 16 Rhagfyr 1973). Hi yw un o gantorion amlycaf y wlad, ac yn wir cyfeirir ati'n aml fel llysgennad cerddoriaeth Portiwgeaidd.

Mewn llai na deuddeng mlynedd, aeth Mariza o fod yn ffenomen leol yn Lisbon, prifddinas Portiwgal, i un o sêr mwyaf adnabyddus y genre cerddoriaeth fyd.

Mae wedi bod ar lwyfannau ledled y byd, gan gynnwys Neuadd Carnegie yn Efrog Newydd, Neuadd Gyngerdd Walt Disney yn Los Angeles, Theatr Lobero yn Santa Barbara, Salle Pleyel ym Mharis, Tŷ Opera Sydney a Neuadd Frenhinol Albert. Mae Mariza wedi perfformio sawl gwaith yn ynysoedd Prydain, gan gymryd rhan yng Ngŵyl y Llais yng Nghaerdydd yn 2016. Mae'r papur newyddion The Guardian wedi cyfeirio ati fel “prif gantores cerddoriaeth fyd”. Ar hyd ei gyrfa, mae wedi gwerthu mwy na miliwn o recordiau ledled y byd, ac mae ymhlith y cerddorion sydd wedi gwerthu'r mwyaf o recordiau ym Mhortiwgal.[1][2]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Plentyndod ac ieuenctid[golygu | golygu cod]

Ganwyd Mariza yn Lourenço Marques (Maputo bellach), prifddinas Mosambic, un o daleithiau tramor Portiwgal ar y pryd. Portiwgead yw ei thad, José Brandão Nunes, ac mae ei mam, Isabel Nunes, yn frodores o Mosambic. Ganwyd Mariza yn gynamserol – chwe mis a hanner a bod yn fanwl gywir – heb unrhyw gyfiawnhad clinigol[3] ac, yn ystod cyfweliad â SIC, dywedodd y gantores fod ei thad wedi cyfaddef iddo'i hystyried y babi mwyaf hyll iddo ei weld yn ei fyw. Yn ôl Mariza, "roedd fy nghlustiau'n dal i fod yn grychlyd a doedd fy llygaid yn dal heb agor" [4]. Roedd ei thad o'r farn na fyddai'n goroesi.

Yng nghôl ei mam,[3] yn dair oed, cyrhaeddodd Faes Awyr Portela yn Lisbon am y tro cyntaf ym 1977. Yn Maputo fel y'i gelwir heddiw, buodd ei thad yn gweithio fel rheolwr i gwmni o'r Iseldiroedd o'r enw Zuid. Wrth i deuluoedd Portiwgeaidd ymadael â hen drefedigaethau tramor Portiwgal, penderfynodd tad Mariza y byddai'r teulu'n symud i Lisbon i ddechrau bywyd newydd. Gwnaeth y teulu ymgartrefu yn Corroios ac yn ddiweddarach yn rhif 22 Travessa dos Lagares, yn Mouraria (ardal Fwraidd Lisbon).

Ym 1979 ailagorodd bwyty Zalala yn yr un gymdogaeth (Mouraria). Y gymdogaeth hon oedd man geni fado ac roedd yn denu enwogion y byd fado, megis Fernando Maurício ac Artur Batalha yn ogystal ag Alfredo Marceneiro Jr, mab Alfredo Marceneiro, a aeth â Mariza pan oedd yn 7 oed i ganu am y tro cyntaf mewn amgylchedd proffesiynol yn y clwb fado adnabyddus Adega Machado. Cafodd Zalala, y bwyty lle tyfodd Mariza fel cantores (ac sydd bellach ar gau), ei enwi ar ôl traeth ym Mosambic.[3]

Ei thad sbardunodd ei hawch am fado . Yn ôl Mariza, roedd ei thad "wastad yn gwrando ar fado ac, amser bwyd, doedd y teledu ddim ymlaen; roedd cerddoriaeth yn chwarae, wastad fado…" [4] Fernando Farinha, Fernando Maurício, Amália Rodrigues, Carlos do Carmo, ymhlith eraill, oedd ffefrynnau José Nunes, ac yn wir y cantorion hynny oedd y rhai a ddylanwadodd fwyaf ar ganu Mariza.

Pan oedd hi'n bump oed, cafodd ei siôl gyntaf – dilledyn y mae'r fadista (neu'r canwr fado) yn gwisgo amdano – ac yna dechreuodd feithrin y llais a'i gwnaeth yn enwog. Wrth gyfeirio at y sefydliad lle dysgodd ganu fado a lle y perfformiodd am y tro cyntaf yn bump oed, gyda'i siôl ddu amdani, dywedodd Mariza:

Dyma lle dechreuodd y cyfan. Efallai mai dyma ble bydd pob dim yn dirwyn i ben. Gall popeth ddod i ben ar unwaith, yn union fel y dechreuodd, a gallwn i fod 'nôl yn y Mouraria, yn nhafarndy fy rhieni yn gweini prydau bach a gwydreidiau o win, ond dyw hynny ddim yn fy mhoeni o gwbl! Nodyn:Quote2 Dim ond yn ystod ei harddegau y dechreuodd gael ei chymryd o ddifrif fel cantores, ond oddi ar hynny mae ei rhieni wedi cyfaddef mewn sawl cyfweliad iddynt fod yn ymwybodol o "ddawn" eu merch. Y fado cyntaf iddi berfformio yn Zalala oedd Os Putos gan Carlos do Carmo; fado a ddysgwyd iddi gan ei thad trwy dynnu lluniau ar dywelion papur.[3] Nid oedd Mariza yn gwybod sut i ddarllen o hyd, ac felly dyna fel yr oedd ei thad yn ei helpu i ddysgu'r caneuon ar ei chof. Defnyddiodd e'r un dull gyda'r darnau Ó Ai Ó Linda a Menina das Tranças Pretas.

Roedd y maes chwarae yn ysgol gynradd Mouraria yn llwyfan i'r ferch chwech oed. Mewn cyfweliad â Correio da Manhã, dywedodd Dona Fernanda, cyn-gynorthwyydd addysg yr ysgol, fod y ferch ifanc yn ffurfio cylch gyda'i ffrindiau ac yna'n mynd i ganol y cylch lle'r oedd hi'n canu i bawb.[3]

Un arall o'i hobïau oedd tapddawnsio, rhywbeth y byddai hi'n ei wneud wrth ddrws blaen ei chartref, gyda chapiau poteli Coca-Cola yn sownd wrth ei hesgidiau. Roedd hi'n aml yn canu gartref ac, er mwyn cogio bod ganddi feicroffon, byddai'n dal chwistrell wallt neu chwistrell ddiarogli yn ei dwylo.[4] "Dyna oedd fy nghynnig ar ddynwared Fred Astaire!",[3] meddai hi'n ddiweddarach.

A hithau yn ei harddegau, dechreuodd Mariza fynd i Ysgol Uwchradd Gil Vicente. Roedd yn arfer ganddi sleifio oddi cartref er mwyn mynd i wrando ar y nosweithiau fado yng nghlwb Grupo Desportivo da Mouraria, lle arhosai wrth y drws, gan nad oedd yn cael mynd i mewn.

Tan iddi ddod yn adnabyddus fel fadista, roedd Mariza yn canu sawl genre amrywiol megis pop, gospel, soul, jazz a hyd yn oed cerddoriaeth ysgafn, gan ategu'r artist/canwr Luís Filipe Reis. Ar y pryd, doedd canu fado fel un o'ch hobïau ddim yn boblogaidd, a doedd ffrindiau Mariza ddim yn gwbl gefnogol o'r peth. Ffurfiodd fand o'r enw Vinyl gydag ambell ffrind. Roedd y band, a oedd yn perfformio ym mar Xafarix yn Lisbon, yn tueddu i ganu cyfars.Yn ddiweddarach ffurfiodd fand o'r enw Funkytown.

Roedd cerddoriaeth Frasilaidd o gryn ddiddordeb i Mariza, a fu'n byw am bum mis ym Mrasil, ym 1996.

Dechreuodd Mariza ganu'n fwy proffesiynol yn un o'r tai fado mwyaf nodweddiadol yn Lisbon, Sr Vinho. Y gân gyntaf iddi ganu yn gyhoeddus oedd Povo que lavas no rio. Canodd hefyd yn nhŷ fado Café Café.

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Fado em Mim (2001)
  • Fado Curvo (2003)
  • Transparente (2005)
  • CD Concerto em Lisboa (2006)
  • Terra (2008)
  • Fado Tradicional (2010)
  • Best Of (Mariza) (2014)
  • Mundo(2015)
  • Mariza (2018)

Tabl gwerthiant[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Safle yn y siartiau Gwerthiannau
POR FFIN FFR ISEL BEL NOR SBAEN PWYL
2001 Fado em Mim
  • Albwm stiwdio cyntaf
4 40 - 59 - - - -
  • POR: 120,000+
2003 Fado Curvo
  • 2il albwm stiwdio
2 - 116 45 - 38 - -
  • POR: 120,000+
2005 Transparente
  • 3ydd albwm stiwdio
1 8 126 13 59 - 44 -
  • POR: 80,000+
2008 Terra
  • 4ydd albwm stiwdio
1 4 175 55 - - 64 43
  • POR: 80,000+
2010 Fado Tradicional
  • 5ed albwm stiwdio
2 6 - 98 - - - 24
  • POR: 20,000+
2014 Best Of (Mariza)
  • Casgliad cyntaf
1 - - - 158 - - -
  • POR: 15,000+
2015 Mundo
  • 6ed albwm stiwdio
1 - - - 78 - 69 -
  • POR: 30,000+
2018 Mariza
  • 7fed albwm stiwdio
1 - - - - - - -
  • POR: 15,000+

Rhaglenni dogfen[golygu | golygu cod]

  • Simon Broughton, Mariza and the Story of Fado, BBC ac RTP, 2007.

Cydweithrediadau[golygu | golygu cod]

  • Pirilampo Mágico (Maria João aTeresa Salgueiro) - Faz a Magia Voar (2003)
  • Chill Fado - O Deserto [remix] (2004)
  • Sting - A Thousand Years (2004)
  • Carlos Guilherme - "Tudo Isto É Fado" (2005)
  • Tim - Fado do Encontro (2007)
  • Rui Veloso
  • Paulo de Carvalho - O Meu Mundo Inteiro (2008)
  • Boss AC - Alguém me ouviu (Mantem-te firme) (UPA – Unidos Para Ajudar) (2009)
  • Sergio Dalma - Alma (2016).

Gwobrau, enwebiadau ac anrhydeddau eraill[golygu | golygu cod]

  • 2003 - Gwobr gan BBC Radio 3, yn y categori 'Artist Gorau Ewrop ym maes Cerddoriaeth Fyd'.
  • 2003 - Gwobr gan y Deutscheschalplatten Kritik
  • 2003 - Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn gan AIEP
  • 2004 - Medal Teilyngdod Twristiaeth (Gradd Aur) gan Ysgrifenyddiaeth Twristiaeth y Wladwriaeth
  • 2004 - Gwobr European Border Breakers gan MIDEM
  • 2004 - Gwestai anrhydeddus yn negfed Ŵyl Gân Ryngwladol Cairo 2004
  • 2004 - Cystadleuaeth Fideo OGAE, ar gyfer y gân Cavaleiro Monge
  • 2004 - Enwebiad ar gyfer Gwobrau Rhyngwladol Terenci Moix, ym maes y Celfyddydau a'r Gwyddorau.
  • 2005 - Llysgennad Ewyllys Da UNICEF
  • 2005 - Gwahoddiad i ymuno â chyngherddau Live 8
  • 2005 - Enwebiad ar gyfer gwobr BBC Radio 3, yn y categori 'Artist Gorau Ewrop ym maes Cerddoriaeth Fyd'.
  • 2005 - Gwobr gan sefydliad Amália Rodrigues
  • 2006 - Arth Arian yng Ngŵyl Ffilm Berlin, yn y categori Cerddoriaeth Ffilm Orau, ar gyfer Ó Gente da Minha Terra yn y ffilm Isabella gan Pang Ho-Cheung.
  • 2006 - Golden Globe, yn y categori Cerddoriaeth, fel y Perfformiwr Unigol Gorau ar gyfer yr albwm Transparente
  • 2006 - Cadlywydd Urdd Infante Dom Henrique (30 Ionawr)
  • 2006 - Enwebiad ar gyfer Gwobrau Helpmann (Awstralia), ar gyfer y Cyngerdd Cyfoes Rhyngwladol Gorau
  • 2006 - Enwebiad ar gyfer gwobr BBC Radio 3, fel Artist Gorau Ewrop ym maes Cerddoriaeth Fyd.
  • 2006 - Enwebiad ar gyfer gwobrau Emma Gaala (yn y Ffindir), fel yr Artist Rhyngwladol Gorau
  • 2007 - Enwebiad ar gyfer Grammy Lladinaidd, yn y categori Cerddoriaeth Werin
  • 2007 - Cylchgrawn Visão yn ei henwi fel un o'r 25 o ferched mwyaf dylanwadol ym Mhortiwgal.
  • 2008 - Llysgennad Twristiaeth, gan Sefydliad Twristiaeth Portiwgal
  • 2008 - Gwobr Rádio Clube/O Metro, yn y categori Diwylliant
  • 2008 - Medal Vermeil gan Gymdeithas Celfyddydau, Gwyddorau a Llên Ffrainc
  • 2008 - Enwebiad ar gyfer Gramadeg Lladinaidd yn y categori 'Albwm Gwerin Gorau' ar gyfer y CD 'Terra'.
    • Fe’i dewiswyd i gynrychioli Portiwgal ym mhrosiect 100 o ferched pwysicaf Ewrop.
  • 2009 - Golden Globe ar gyfer y Perfformiwr Unigol Gorau.
  • 2010 - Dyfarnwyd medal Chevalier de l’Ordre des Arts et des Lettres iddi gan Frédéric Mitterrand, Gweinidog Diwylliant Ffrainc.[5][6]
  • 2018 - Enillodd Wobr Celf a Diwylliant Portiwgal a Sbaen

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Até hoje Mariza já vendeu um milhão de discos". Diário de Notícias.
  2. "Mariza lanza nuevo disco cinco años después". Hoy es Arte.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 Miguel Azevedo in Êxito, suplemento do Correio da Manhã, Sábado, 3 de Novembro de 2007
  4. 4.0 4.1 4.2 "SIC Notícias - SIC Notícias – toda a informação nacional e internacional, programas, guia tv, vídeos e opinião". SIC Notícias.
  5. "Mariza Cavaleiro de Artes e Letras".
  6. "Discours de Pascal TEIXEIRA DA SILVA Ambassadeur de France au Portugal à l'occasion de la remise des insignes de chevalier de l'ordre des arts et lettres à Madame Marisa dos Reis Nunes dite MARIZA Palais de Santos, mardi 7 décembre 2010" (PDF) (yn Ffrangeg). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2020-06-20.