Neuadd Frenhinol Albert

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y neuadd yn Llundain

Neuadd gerdd yn Ne Kensington, Llundain, Lloegr, ydy Neuadd Frenhinol Albert (Saesneg: Royal Albert Hall) sy'n adnabyddus fel cartref y Proms ers 1941. Gall ddal hyd at 5,272 o bobl.

Fe'i hadeiladwyd yn 1871 a'i henw gwreiddiol oedd "The Central Hall of Arts and Sciences", ond newidiwyd yr enw gan y Frenhines Victoria i "Royal Albert Hall of Arts and Sciences" pan oedd yn gosod y seiliau cyntaf. Mae'r gromen yn y to yn haearn bwrw a gwydr ac yn 41 m (135 tr) o uchder. Adeiladwyd y neuadd ar ffurf elipsaidd, mewn gwirionedd, ac nid cylch ac mae'n mesur 83 m (272 tr) wrth 72 m (236 tr).

Oriel[golygu]

Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato