Makarios III

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yr Archesgob Makarios III
Arlywydd Gweriniaeth Cyprus
Yn ei swydd
16 Awst 1960 – 15 Gorffennaf 1974
Is-Lywydd Dr. Fazıl Küçük
Rhagflaenydd swydd newydd
Ar ei ôl Nikos Sampson (o ganlyniad i coup d'état yn erbyn Makarios - 15–23 Gorffennaf 1974)
Yn ei swydd
7 Rhagfyr 1974 – 3 Awst 1977
Rhagflaenydd Glafcos Clerides (arlywydd dros dro yn ôl cyfansoddiad Cyprus, 23 Gorffennaf – 7 Rhagfyr 1974)
Ar ei ôl Spyros Kyprianou
Manylion personol
Ganwyd 13 Awst 1913(1913-08-13)
Panagia, Paphos, Cyprus
Marw 3 Awst 1977 (63 oed)
Nicosia, Cyprus
Plaid wleidyddol dim plaid
Proffesiwn Clerigwr
Crefydd Eglwys Cyprus
Llofnod

Archesgob Eglwys Uniongred Cyprus ac Arlywydd Cyprus oedd Makarios III (Groeg (iaith): Μακάριος Γ; 13 Awst 1913 – 3 Awst 1977).

Ganwyd Mikhail Khristodolou Mouskos (Groeg (iaith): Μιχαήλ Χριστοδούλου Μούσκος) i deulu o ffermwyr Cypriaidd Groegaidd yn Panagia, ger dinas Paphos yn ne-orllewin Cyprus. Ar ôl iddo ddod yn Archesgob Cyprus ym 1950, cymerodd rôl flaenllaw wrth gefnogi enosis, sef undeb rhwng Cyprus a Gwlad Groeg. Roedd Cyprus dan reolaeth Prydain ar y pryd, oedd yn dymuno rhoi annibyniaeth i'r ynys. Roedd gwrthwynebiad i'r syniad hwn gan gefnogwyr enosis, yn bennaf y mudiad terfysgol EOKA. Cyhuddwyd Makarios o fod yn aelod o EOKA, a chafodd ei alltudio i'r Seychelles gan Brydain ar 9 Mawrth 1956. Wedi i EOKA gynnig cadoediad â Phrydain, rhoddwyd caniatâd i Makarios adael, ond nid i ddychwelyd i Gyprus. Gadawodd Mahé ar 6 Ebrill 1957, gan deithio i Madagasgar ac yna i Athen ar long a ddarparwyd gan Aristoteles Onassis a llywodraeth Groeg.[1]

Dychwelodd i Gyprus, gan gadw ei wrthwynebiad i annibyniaeth yn ddawel, ac ym 1960 daeth yn arlywydd y weriniaeth newydd. Ymdrechodd ar y cychwyn i gadw cydbwysedd rhwng cymunedau Groegaidd a Thwrcaidd yr ynys, ond ym 1963 cynigodd Makarios newidiadau i'r cyfansoddiad i ddiddymu'r drefn o rannu grym rhwng y cymunedau Groegaidd a Thwrcaidd. O ganlyniad bu trais rhwng cymunedau'r ynys, ac ym 1964 daeth heddgeidwaid y Cenhedloedd Unedig i Gyprus.[2] Yn ogystal â dieithrio'r Cypriaid Twrcaidd, llwyddodd Makarios i ddigio llywodraeth Gwlad Groeg a nifer o Gypriaid Groegaidd gan droi ei gefn ar enosis a chydnabod manteision annibyniaeth yr ynys. O safbwynt Makarios, bydd Twrci yn ymyrryd i atal enosis; yn ôl y Cytundeb Gwarantu rhwng Cyprus, Groeg, Prydain a Thwrci, nid oedd Cyprus i uno ag unrhyw wlad arall, ac yr oedd hawl gan wledydd eraill y cytundeb i atal hynny rhag digwydd.[3]

Ni lwyddodd Makarios i berswadio Cypriaid Groegaidd o'r angen i roi enosis i un ochr. Ar 15 Gorffennaf 1974 cafodd ei ddymchwel mewn coup d'état gan EOKA B a gefnogwyd gan Warchodlu Cenedlaethol Cyprus a'r jwnta filwrol yng Ngwlad Groeg. Wnaeth Makarios ffoi i'r Deyrnas Unedig.[4] Pwrpas y coup oedd i uno Cyprus â Groeg, ond daeth rhagwelediad Makarios o ymyrraeth Dwrcaidd yn wir. Goresgynwyd yr ynys gan Dwrci, gan rannu'r wlad a sefydlu Gweriniaeth Dwrcaidd Gogledd Cyprus. Daeth Lywydd Tŷ'r Cynrychiolwyr, Glafcos Clerides, yn Arlywydd Cyprus nes i Makarios ddychwelyd yn Rhagfyr 1974.[2] Gwasanaethodd Makarios fel arlywydd hyd ei farwolaeth o drawiad ar y galon yn Nicosia ym 1977.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) Cavendish, Richard (Mawrth 2006). Archbishop Makarios Deported from Cyprus. HistoryToday. Adalwyd ar 31 Awst 2012.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Cyprus profile. BBC (26 Mehefin 2012). Adalwyd ar 31 Awst 2012.
  3. (Saesneg) Turkey's Invasion of Greek Cyprus. GlobalSecurity.org. Adalwyd ar 1 Awst 2012.
  4. Mallinson, William. Cyprus: A Modern History. I. B. Tauris. t. 80. ISBN 978-1-85043-580-8.

Dolen allanol[golygu]