Madfall y tywod
Oddi ar Wicipedia
| Madfall y tywod | |
|---|---|
| Gwryw | |
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Squamata |
| Teulu: | Lacertidae |
| Genws: | Lacerta |
| Rhywogaeth: | L. agilis |
| Enw deuenwol | |
| Lacerta agilis Linnaeus, 1758 |
|
Madfall fach a geir ar draws y rhan fwyaf o Ewrop a Chanolbarth Asia yw madfall y tywod (Lacerta agilis). Mae ganddi hyd o tua 15–19 cm.[1] Mae'r cefn yn frown neu lwyd gyda smotiau du a gwyn. Mae'r bol yn wyn, melyn neu wyrdd. Mae gan y gwryw ystlysau gwyrdd llachar yn ystod y tymor bridio.[2]
Mae'n byw mewn rhostir, glaswelltir, a thwyni.[2] Ym Mhrydain Fawr, fe'i ceir yn Ne a Gogledd-orllewin Lloegr ac mae wedi cael ei hailgyflwyno i Ogledd Cymru ac ynys Coll yn yr Alban.[1] Mae'n bwydo ar bryfed a phryfed cop yn bennaf.[1] Mae'n dodwy 4–14 ŵy sy'n cael eu claddu mewn tir tywodlyd.[2]
Cyfeiriadau [golygu]
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: